Nemesis (mytholeg)
Ym mytholeg Roeg, duwies sy'n cosbi balchder a thraha yw Nemesis. Mae hi'n cynrychioli math o ddial dwyfol neu adsefydlu'r drefn naturiol ar ôl iddi gael ei gwrthdroi gan lwc da eithriadol. Yn ôl yr awdur Groeg Hesiod, mae hi'n ferch i'r dduwies Nos a adawodd y ddaear, gyda Aidos, duwies Gwyleidd-dra, ar ddiwedd yr Oes Aur.
Enghraifft o'r canlynol | Okeanid, duw Groeg |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Nemesis (gwahaniaethu).
Roedd ei chwlt yn arbennig o gryf yn ardal Rhamnus yn Attica, ac fe'i gelwir weithiau "y dduwies Rhamnusiaidd" o'r herwydd. Yn Rhamnus credid ei bod yn ferch i Okeanos, duw'r môr. Dywedir y cerfiodd yr arlunydd enwog Phidias gerflun ohoni allan o ddarn o farmor roedd y Persiaid wedi dwyn i faes Marathon i godi allor i'w buddugoliaeth ddisgwyliedig: ond y Groegiaid a enillodd y dydd felly priodol oedd gwneud cerflun o Nemesis gyda'r garreg a'i osod yn ei theml yn Rhamnus.
Cafodd ei chwlt le ym mhantheon y Rhufeiniaid yn nes ymlaen. Mae cerfluniau Rhufeinig yn ei phortreadu fel morwyn fyfyrgar sy'n dal Olwyn Ffawd a/neu symbolau o reolaeth a chymesuredd (e.e. fflangell a ffon mesur). Mae ei adenydd yn cynrychioli cyflymder.
Cedwir ei henw o hyd yn y dywediad "mae wedi cwrdd â'i nemesis."
Ffynhonnell
golygu- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).