Neo-wladychiaeth
Enw ar arferion a ddefnyddir gan wledydd datblygedig yn yr oes ôl-drefedigaethol i ddylanwadu ar wledydd datblygol yw neo-wladychiaeth. Term beirniadol ydyw sydd yn disgrifio perthynas anghyfartal o ganlyniad i dra-arglwyddiaeth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, milwrol, a gwleidyddol sydd gan y byd datblygedig, yn enwedig y cyn-bwerau imperialaidd, i ymelwa ar y byd datblygol, fel arfer y cyn-drefedigaethau, er gwaethaf yr hawl sydd gan bob wladwriaeth annibynnol i sofraniaeth ac hunanbenderfyniad. Mae'r enw yn awgrymu ffurf gyfoes ar wladychiaeth, sydd yn wahanol i'r hen drefn o ymledu trefedigaethau drwy rym arfog ac ymerodraethau ffurfiol. Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, trafodir neo-wladychiaeth yn bennaf gan ysgolheigion Marcsaidd ac ôl-drefedigaethol.
Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r Farchnad Gyffredin. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng Unol Daleithiau America a chenhedloedd America Ladin. Defnyddiwyd y term gan Farcswyr i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad Lenin o imperialaeth yn "gam uchaf cyfalafiaeth") a gynhelir gan gwmnïau trawswladol a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol.
Llywodraeth ac addysg
golyguYn ogystal â dylanwadau allanol, megis y gyfundrefn economaidd fyd-eang a bygythiadau milwrol, mae ysgolheigion yn dadlau bod neo-wladychiaeth yn dibynnu ar strwythurau mewnol y byd datblygol a gynhelir gan weithredwyr lleol. Gallai'r strwythurau hyn fod yn etifeddiaeth y cyfnod trefedigaethol, er enghraifft olion y gyfundrefn addysg Macaulayaidd yn India, neu yn greadigaethau diweddar sydd yn efelychu hen bolisïau'r awdurdodau trefedigaethol. Yn ôl yr ysgolhaig Syed Hassan, croesewir neo-wladychiaeth gan rai o lywodraethau'r byd datblygol i gyfiawnhau polisïau sydd yn gwthio diwylliannau brodorol i'r cyrion ac yn rhoi normau a dulliau'r byd datblygedig ar waith.[1]
Yn yr oes drefedigaethol, bu'r elît cynhenid yn manteisio ar gydymffurfio â'r drefn Ewropeaidd ac efelychu cymdeithas a diwylliant y gwladychwyr. Trodd nifer o frodorion eu cefnau ar eu traddodiadau ac yn cofleidio'r fydolwg Ewro-ganolog er mwyn ymuno â rhengoedd uchaf cymdeithas. Yn y byd cyfoes, mae meibion a merched y dosbarthiadau uchaf mewn gwledydd datblygol o hyd yn derbyn eu haddysg a'u hyfforddiant yn y Gorllewin, ac yn llyncu felly normau cymdeithasol a diwylliannol estron. Wrth ddychwelyd i'w mamwledydd i weithio yn y llywodraeth, y lluoedd arfog, a'r proffesiynau, maent yn parhau i lynu at fframweithiau cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd y byd datblygedig. Gellir cymharu amcanion yr elitau hyn i foderneiddio a Gorllewineiddio eu gwledydd â'r hen genhadaeth imperialaidd i wareiddio'r bobloedd a orchfygwyd.[1]
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golyguCyfeiriadau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Syed Hassan, "Neocolonialism" yn Encyclopedia of the Developing World, golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 1118–20.