Mudiad gwrth-globaleiddio
Mudiad eang ond wedi'i drefnu'n llac yw'r mudiad gwrth-globaleiddio sy'n gwrthwynebu globaleiddio cyfalafiaeth gorfforaethol. Mae'n gorgyffwrdd ac weithiau'n gyfystyr â'r mudiad cyfiawnder byd-eang a'r mudiad gwrth-neoryddfrydol. Yn gyffredinol, mae aelodau'r mudiad yn gwrthwynebu grym gwleidyddol gan gorfforaethau amlwladol mawrion o ganlyniad i ddadreoleiddio mewn meysydd masnach ryngwladol a marchnadoedd ariannol. Cyhuddir corfforaethau o fwyhau eu helw gan ddifrodi safonau hurio, iawndal, diogelwch yn y gweithle, yr amgylchedd, ac awdurdod ac annibyniaeth ddeddfwriaethol genedlaethol. Mae aelodau yn aml yn beirniadu sefydliadau rhyngwladol megis Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) hefyd.
Math | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Sefydlwyd | 1988 |
Mae gweithredwyr gwrth-globaleiddio yn galw am integreiddio byd-eang er mwyn ennill cynrychiolaeth ddemocrataidd well, hawliau dynol, masnach deg, a datblygiad cynaliadwy, ac felly gall y term "gwrth-globaleiddio" fod yn gamarweiniol. Mae'r mudiad wedi bod yn graidd i nifer o brotestiadau, gan gynnwys y gwrthdystiadau yn erbyn Sefydliad Masnach y Byd yn Seattle ym 1999, ac wedi cynnal nifer o gynadleddau, megis Fforwm Cymdeithasol y Byd.