Ffibr nerfol a geir mewn dyn ac anifeiliaid eraill yw'r nerf sciatic (adnabyddir hefyd fel y nerf ischiatic). Mae'n cychwyn yng ngwaelod y cefn ac yn ymestyn drwy'r ffolen ac i lawr yr aelod isaf. Dyma'r nerf sengl lletaf a'r hiraf yn y corff dynol.

Nerf sciatic
Enghraifft o'r canlynolnerf asgwrn y cefn, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathnerf, branch of sacral nerve plexus, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osacral plexus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ardal gluteal dde yn dangos a rhydwelïau a'r nerf sciatic

Mae'r nerf sciatic yn darparu bron yr holl o groen y coes, cyhyrau cefn y morddwyd, y coes a'r droed. Mae'n deillio o'r nerfau sbinol o L4 i S3. Mae'n cynnwys ffibrau o'r rhaniadau blaen ac ôl y plecsws sacrwm meingefnol (lumbosacral plexus).

Canghennau golygu

Mae'r nerf yn rhannu gyda changhenau cymalol a chyhyrol.

  • Mae'r canghennau cymalol (rami articulares) yn dod o rhan uchaf y nerf ac yn darparu cymal y clun, gan dyllu drwy rhan ôl eigwpan; wethiau mae'n yn deillio o'r plecsws sacrwm.
  • Mae'r canghennau chyhyrol (rami musculares) yn cael eu dosbarthu i'r cyhyrau canlynol yn yr aelodau isaf: biceps femoris, semitendinosus, semimembranosus, ac adductor magnus. Daw'r nerf i ben byr y biceps femoris o ran peroneal cyffredin y sciatic, tra bod y canghennau chyhyrol eraill yn dod o'r rhan tibiaidd, a gellir ei weld mewn achosion pan mae llawr o raniaddau mewn nerf sciatic.

Yn y pen draw, mae'r canghennau chyhyrol yn dod at y nerf tibiaidd a'r nerf peroneal cyffredin, sy'n nerfogi cyhyrau rhan isaf o'r goes. Mae'r nerf tibiaidd yn nerfogi holl gyhyrau'r droed heblaw'r digitorum brevis estyn (sy'n cael ei nerfogi gan y nerf peroneal).

Patholeg golygu

Adnabyddir y poen a achosir gan gywasgiad cyffredinol ac/neu enynfa y nerf sciatic fel problem yng ngwaelod y cefn, gelwir y symptomau yn sciatica. Mae achosion cyffredin sciatica yn cynnwys cyflyrau gwaelod y cefn: torllengig disg sbinol, clefyd dirywiol disg, stenosis sbinol a spondylolisthesis.

Mewn crefydd golygu

Yn y grefydd Iddewaeth, gwaharddir bwyta'r nerf sciatic, hyd yn oed o enifeiliaid sydd fel arall yn kosher ac wedi eu lladd yn y modd cywir. Mae hyn yn seiliedig ar waharddiad a gaiff ei grybwyll yn Llyfr Genesis pennod 32, yn y Beibl, pan gaiff Jacob ei anafu'n tra'n ymgodymu gyda angel.[1] Adnabyddir y nerf sciatic yn Hebraeg fel y gid hanasheh. Mae'r broses o dynnu'r nerf sciatic (yn ogystal â rhai llestri gwaed mawr penodol a brasteri sydd wedi eu gwahardd) o'r cig sy'n ei amgylchynnu yn cael ei alw'n nikkur, neu'n "dad-wythiennu." Gan ei fod yn broses anodd a chain, yn gyffredinol ni gaiff cig o du ôl anifeil ( gan gynnwys Filet mignon) eu gwerthu fel kosher.[2]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu