Bod dynol gwrywaidd aeddfed yw dyn (mewn cyferbyniaeth â dynes) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig; y ffurf ifanc yw 'bachgen'. Mae'r gair hefyd yn cynnwys merched ar adegau e.e.'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio?' (Beibl) lle cyfeirir at y ddynoliaeth gyfan, ac mae'n perthyn i'r genws Homo.

Montage o ddynion amrywiol: Hafez · Dafydd · Ban Ki-moon · Chinhua Achebe · Aryabhata · Händel · Confucius · Kofi Annan · Chief Joseph · Plato · Ronaldo · Albert Einstein · Errol Flynn · Mohandas Gandhi · Augustus John · Joel Salatin  · Adam · Erik Schinegger · Dyn a phlentyn a Richard Burton

Fel y rhan fwyaf o famaliaid, mae genome dyn yn etifeddu Cromosom X gan ei fam ac Y gan ei dad. Mae gan y ffetws gwrywaidd hefyd mwy o androgen a llai o estrogen na ffetws benyw. Y gwahaniaeth hwn sy'n gyfrifol am y gwahaniaethau ffisiolegol rhwng dyn a dynes. Hyd at y cyfnod glasoed, ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y ddau ryw, ond yna, gyda'r hormonau yn ysgogi rhagor o androgen, mae'r gwahaniaeth rhwng nodweddion rhywiol y ddau ryw yn cael eu hamlygu.

Ystyron yn y Gymraeg golygu

Yn wreiddiol prif ystyr y gair dyn yn Gymraeg oedd "person" neu "fod dynol". Yn ogystal roedd yn air a ddefnyddid yn aml gan y cywyddwyr i gyfeirio at ferched, ac yn enwedig at ferched ifainc (ceir nifer o enghreifftiau o ddisgrifiadau fel dyn deg yng ngwaith beirdd fel Dafydd ap Gwilym, er enghraifft, sy'n golygu "merch deg"). Gallai olygu "gwas" hefyd. Mewn cyferbyniaeth, gŵr oedd y gair arferol ar gyfer dyn mewn oed (gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr) a mab am ddyn ifanc (unwaith eto gyda "rhyfelwr" ymhlyg yn yr ystyr). Dim ond yn raddol y daeth y gair i olygu 'dyn' yn yr ystyr sy'n gyfarwydd heddiw.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 1, tud. 1140.

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am dyn
yn Wiciadur.