Nesâd
Yng nghysylltiadau rhyngwladol, ail-sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng gwladwriaethau yw nesâd neu rapprochement (Ffrangeg am "ddod at ei gilydd").[1] Enghraifft o nesâd yw Ostpolitik Gorllewin yr Almaen, dan y Canghellor Brandt, a geisiodd normaleiddio cysylltiadau rhwng Gorllewin yr Almaen a gwledydd y Bloc Dwyreiniol gan gynnwys cydnabod Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Enghraifft arall yw cyweirio cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau, dan yr Arlywydd Nixon, a Gweriniaeth Pobl Tsieina trwy ei daith i'r wlad ym 1972 a diplomyddiaeth ping-pong.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998), t. 462.