Nest Bloet
Roedd Nest Bloet (m. 1224/5) yn ferch i Angharad ferch Uthred Esgob Llandaf ac Iorwerth ab Owain, Arglwydd Caerleon.[1]
Nest Bloet |
---|
Priodas
golyguPriododd Ralph Bloet (m.1199) un o arglwyddi'r Mers (ardal o'r enw Striguil gyda Chas-gwent yn ganolfan iddi); ceir tystiolaeth iddynt briodi rywdro cyn 1175.[2] Mab Walter Bloet oedd Ralph, a wobrwywyd am ei wasanaeth i'r Goron a rhoddwyd iddo dreflan Rhaglan yn wobr gan Richard de Clare (a elwid yn 'Strongbow') c.1171. Roedd teulu Ralph, felly, yn deulu hynod o bwerus, gyda'r naill droed yn ne-ddwyrain Cymru a'r llall yn ne-orllewin Lloegr,[3] a phriodas Nest a Ralph felly'n cysylltu dwy gymuned dra gwahanol.
Carwriaeth gyda Harri II, brenin Lloegr
golyguCofnodir i Nest gael perthynas gyda Brenin Harri II o Loegr,[4] yn y 1170au cynnar neu ganol.[5] Efallai iddi gwrdd â'r brenin pan ddaeth i Gaerloyw i gyfarfod arglwyddi De Cymru pan roddodd Caerllion yn anrheg i'w thad.[6] Mae'n bosibl i'r garwriaeth hon gychwyn cyn hynny pan gyfarfu Henry gyda Iorwerth dair blynedd yn gynharach.[7]
Ffrwyth y garwriaeth oedd mab o'r enw Morgan, a fagwyd gan Ralph a Nest ond a gafodd ei gydnabod gan Harri II.[8] Daeth yn brofost Beverley ac yn ddiweddarach yn esgob-ethol Durham. Ni chafodd y penodiad ei gadarnhau gan y Pab Innocentius III, fodd bynnag, a wrthododd gadarnhau'r penodiad oherwydd ei fod yn blentyn anghyfreithlon. Awgrymodd Innocent y gallai hawlio Ralph yn lle Harri fel tad, ond gwrthododd Morgan ac ni chymerodd ei le fel esgob.[9]
Plant
golyguNid Morgan oedd ei hunig blentyn; cafodd bedwar mab a merch gan Ralph:
Gwraig weddw
golyguGwnaed Nest yn weddw yn 1199 ac ymladdodd achos cyfreithiol yn erbyn Robert Bloet, ei brawd-yng-nghyfraith, a Hywel ab Iorwerth, ei brawd.[12][13] Ymddengys iddi fwynhau nawdd Brenin John hyd yn oed yr adeg hon, gan i'r anghydfodau teuluol hyn gael eu setlo o'i phlaid, gan ei gadael gyda setliad ariannol sylweddol. Mae'r brenin John hefyd yn gwahodd nifer o feibion Nest i'w wasanaeth yn Llundain, a bu un, Roland, farw yn ymladd yn erbyn Morgan ap Hywel Caerllion, cefnder fam.[14]
Bu farw Nest rhwng hydref 1224 a haf 1225 o achosion anhysbys.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A History of Caerleon Castle, Caerleon.net
- ↑ Bartrum, P.C. (1983). Welsh Genealogies 400-1400. Aberystwyth.
- ↑ Coplestone-Crow, Bruce (Autumn 2000). "Strongbow's grant of Raglan to Walter Bluet". Gwent Local History.
- ↑ 'Ralph Bloet', David Crouch in Oxford Dictionary of National Biography, adalwyd 17/06/2015
- ↑ 'Nest Bloet', David Crouch, Oxford Dictionary of National Biography, adalwyd 15/06/2015
- ↑ Gillingham, John (2000). The English in the twelfth century: Imperialism, National Identity and Political values. Woodbridge, Suffolk: Boydell. t. 61. ISBN 978-0-85115-732-0.
- ↑ Crouch, David (2008). [adalwyd 16 Oct 2015 "Nest Bloet"] Check
|url=
value (help). Oxford Dictionary of National Biography. - ↑ Barlow, F (1945). Annales Dunelmenses in Durham Annals and Documents of the Thirteenth century. Surtees Society. tt. 1–2.
- ↑ Chris Given-Wilson and Alice Curteis, The Royal Bastards of Medieval England (Llundain, 1984), t.99.
- ↑ 'Ralph Bloet (iv)', David Crouch, Oxford Dictionary of National Biography, adalwyd 15/06/15
- ↑ Crouch, David (2008). "Oxford Dictionary of National Biography".
- ↑ 'Nest Bloet', David Crouch, Oxford Dictionary of National Biography, adalwyd 15/06/07
- ↑ Curia Regis Rolls, volume one. London: His Majesty's Stationary Office. 1922. tt. 382, 393, 397.
- ↑ 'Nest Bloet', David Crouch, Oxford Dictionary of National Biography, adalwyd 15/06/15