Agor y brif ddewislen

Olion RhufeinigGolygu

Yn y cyfnod Rhufeinig, fel Isca Silurum, roedd Caerllion yn ganolfan i'r lleng Legio II Augusta. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.

Yr Oesoedd CanolGolygu

Tua dwy neu dair km i'r gogledd-orllewin saif Mwnt y Castell, sef hen domen mwnt a beili.

 
Golygfa ar Gaerllion
 
Golygfa o'r olion Rhufeinig
 
Yr Amffitheatr Rufeinig

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caerllion (pob oed) (8,061)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caerllion) (774)
  
9.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caerllion) (6117)
  
75.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caerllion) (1,174)
  
34.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013