John, brenin Lloegr
Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 1166 – 18/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.
John, brenin Lloegr | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1166 ![]() Palas Beaumont ![]() |
Bu farw | 19 Hydref 1216 ![]() Castell Newark ![]() |
Swydd | teyrn Lloegr, dug Normandi, Arglwydd Iwerddon, cownt Angyw ![]() |
Tad | Harri II, brenin Lloegr ![]() |
Mam | Eleanor o Aquitaine ![]() |
Priod | Isabel, Countess of Gloucester, Isabella o Angoulême, Adela de Warenne ![]() |
Plant | Harri III, brenin Lloegr, Richard, iarll 1af Cernyw, Joan o Loegr, Brenhines yr Alban, Isabella of England, Eleanor of Leicester, y Dywysoges Siwan, Richard FitzRoy, Oliver fitz Regis, Osbert Gifford, Geoffrey FitzRoy, John FitzJohn, Odo FitzRoy, Ivo (?), Henry (?), Richard of Wallingford, Matilda of Barking, Isabella la Blanche, Joan (?) ![]() |
Llinach | Llinach Angyw ![]() |
Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.
Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty San Steffan ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.
Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.
Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.
PlantGolygu
Gyda'i wraig Isabella d'AngoulêmeGolygu
- Harri III, brenin Lloegr (1207–1272), brenin Lloegr 1216–1272
- Rhisiart, 1af Iarll Cernyw (1209–1272)
- Joan o Loegr (1210–1238), gwraig Alexander II, brenin yr Alban
- Isabella Plantagenet (1214–1241), gwraig Ffrederic II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
- Elinor (1215–1275), gwraig Simon de Montfort a mam Elinor de Montfort
Rhagflaenydd: Rhisiart I |
Brenin Lloegr 6 Ebrill 1199 – 18/19 Hydref 1216 |
Olynydd: Harri III |