Neuadd William Aston
Neuadd William Aston hefyd Theatr William Aston (Saesneg: William Aston Hall) yw lleoliad theatr a chyngherddau mwyaf dinas Wrecsam gyda lle i hyd at 880 (1200 yn sefyll).
Enghraifft o'r canlynol | neuadd gyngerdd, theatr, performance hall |
---|---|
Rhanbarth | Wrecsam |
Wedi’i lleoli ar gyrion canol tref Wrecsam ar gampws Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AF.[1]
Perfformwyr
golyguMae Neuadd William Aston croesawu rhai o’r enwau mwyaf ym myd comedi (gan gynnwys yn Gymraeg perfformiadwyr megis taith Nadolig 2023 Cabarela[2] ac yn Saesneg Kevin Bridges, Alan Davies a Jimmy Carr), cerddoriaeth (gan gynnwys Feeder a The Levellers) yn ogystal â ballet, dawns, sgyrsiau a sioeau.[1] Mae hefyd gartref i Gerddorfa Symffoni Wrecsam a sefydlwyd yn 1969 gan Bryn Williams fel y 'Clwydian Ensemble'.[3]
Hanes
golyguMae’r neuadd wedi’i henwi ar ôl un o drigolion enwog Wrecsam, William Aston CBE (1869-1962), gŵr busnes o fri a gwleidydd lleol a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad Wrecsam fel tref ac fel canolfan dysg.
Yn 2022 daeth Theatr Clwyd a Phrifysgol Wrecsam (a alwyd yn Brifysgol Glyndŵr ar y pryd) at ei gilydd mewn partneriaeth i achub dyfodol Neuadd William Aston. Eu bwriad oedd diogelu’r lleoliad celfyddydol hanfodol hwn fel ased cymunedol, gan sicrhau bod pobl Wrecsam a Gogledd Cymru fynediad i adloniant byw.
Mae Theatr Clwyd bellach yn gweithredu’r lleoliad – o’r bariau a gwerthiant y tocynnau, i raglennu a llogi.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Amdanom Ni". gwefan Neuadd William Aston. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
- ↑ "Pwy sy'n Dwad?". Tudalen Facebook Cabarela. 28 Medi 2023.
- ↑ "WSO History". Gwefan Cerddorfa Symffoni Wrecsam. Cyrchwyd 15 Mawrth 2024.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Neuadd William Aston
- @WilliamAstonHall ar Facebook
- @WilliamAstonWXM cyfrif Twitter