Adeilad Fictoraidd o waith y pensaer lleol George Vaughan Maddox ydy Neuadd y Farchnad, Trefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Fe'i codwyd rhwng 1837 a 1839 fel canolbwynt canol y dref pan oedd y dre'n cael ei ail-wampio wedi difrod gan dân. Mae bellach yn gartref i Amgueddfa Trefynwy.