Afon yn ne-ddwyrain Cymru a Lloegr yw Afon Mynwy (Saesneg: River Monnow), sy'n tarddu yn y Mers ac yn ymuno ag Afon Gwy. Ei hyd yw tua 26 milltir.

Afon Mynwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.0244°N 3.0948°W, 51.8057°N 2.71°W Edit this on Wikidata
AberAfon Gwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Honddu, Afon Dore Edit this on Wikidata
Hyd42 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu dros 1500 troedfedd i fyny ym mryniau gorllewin Swydd Henffordd, tua 4 milltir i'r de o'r Gelli Gandryll. Am ran gyntaf ei daith mae'n llifo i lawr i gyfeiriad y de yn agos i'r ffin ac yn croesi i Gymru ger Y Pandy, Sir Fynwy. Yna mae'n troi i'r dwyrain am rai filltiroedd cyn llifo ar gwrs de-ddwyreiniol am weddill ei chwrs, gan aros yn agos iawn i'r ffin gyda bryniau'r Mynydd Du i'r gorllewin. Mae'r pentrefi ger ei glannau yn cynnwys Yr Hencastell, Y Grysmwnt, Ynysgynwraidd a Llanoronwy. Ar ôl llifo trwy Drefynwy, lle mae pont hynafol enwog yn ei chroesi, mae'n ymuno ag Afon Gwy.

Rhwng y Pandy ac Ynysgynwraidd mae'r pysgota am frithyll yn arbennig o dda.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.