Ngũgĩ wa Thiong'o

Nofelydd a dramodydd o Genia yw Ngũgĩ wa Thiong'o (ganwyd 5 Ionawr 1938).[1] Mae hefyd yn ysgrifennu ar bynciau iaith a threfedigaethrwydd.

Ngũgĩ wa Thiong'o
Ngũgĩ wa Thiong'o yn Festivaletteratura Mantova, yr Eidal, yn 2012
Ganwyd5 Ionawr 1938 Edit this on Wikidata
Kamirithu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCenia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd, athronydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amI Will Marry When I Want, Matigari ma Njiruungi, Weep Not, Child, Decolonising the Mind, The Upright Revolution, Or Why Humans Walk Upright Edit this on Wikidata
PlantMũkoma wa Ngũgĩ, Wanjiku wa Ngũgĩ Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ryngwladol Nonino, Lotus Prize for Literature, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Doctor honoris causa at University of Bayreuth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ngugiwathiongo.com Edit this on Wikidata

Ganwyd James Thiong'o Ngugi yn Limuru, Ardal Kiambu, Cenia.[2] Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Weep Not, Child, yn Saesneg pan oedd yn mynychu Prifysgol Leeds yn Lloegr. Cyhoeddwyd ym 1964.

Cyd-ysgrifennodd y ddrama I Will Marry When I Want gyda Ngugi Wa Mirii, gan feirniadu'r anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng nghymdeithas Cenia. Cafodd Ngũgĩ ei arestio wedi perfformiad o'r ddrama ym 1977 a'i gadw heb gyhuddiad yng Ngharchar Kamiti. Pan yn y carchar, penderfynodd Ngũgĩ i ysgrifennu yn ei famiaith Gikuyu yn lle'r Saesneg. Treuliodd ei amser yn y carchar yn ysgrifennu'r nofel Caitani Mutharabaini ar bapur tŷ bach. Cafodd ei enwi'n garcharor gwleidyddol gan Amnest Rhyngwladol a'i ryddhau yn Rhagfyr 1978 yn sgil ymgyrch ryngwladol.[3]

Ers hynny mae Ngũgĩ wedi galw ar lenorion Affricanaidd eraill i ysgrifennu yn eu hieithoedd brodorol ac nid ieithoedd Ewropeaidd.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o. Gwobr Booker. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
  2. (Saesneg) Ngugi wa Thiong’o. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Rhagfyr 2013.
  3. (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o: A Profile of a Literary and Social Activist. ngugiwathiongo.com. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
  4. (Saesneg) Mwangi, Evan (13 Mehefin 2009). Queries over Ngugi’s appeal to save African languages, culture. Daily Nation. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: