Teithlyfr tafod yn y boch gan Ian Parri yw Nid yr A470. Dyma lyfr taith go wahanol gan y newyddiadurwr, cyfieithydd a thafarnwr Ian Parri. Mae'n olrhain ffordd arall o deithio o Landudno i Fae Caerdydd, sef y ddau ben i'r A470, heb gyffwrdd yr A470 ei hun, nac unrhyw briffordd arall ac eithrio eu croesi ar gyffyrdd. Aiff a'r awdur a'r darllenydd ar daith i fannau gwahanol o Gymru efallai na fyddai pawb yn gyfarwydd â nhw. Gellir ei ddisgrifio'n decach fel llyfr sy'n rhannol yn deithlyfr, yn rhannol yn hunangofiannol, ac yn rhannol yn llyfr hanes ysgafn. Gwasg Gwynedd a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2013. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Nid yr A470
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurIan Parri
CyhoeddwrGwasg Gwynedd
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncTwristiaeth yng Nghymru
Argaeleddmewn print
ISBN9780860742876



Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013