Llenyddiaeth teithio
Mae llenyddiaeth teithio yn debyg i lyfrau taith ond caiff ei ystyried o'r un gwerth â llenyddiaeth. Mae llenyddiaeth teithio yn cofnodi'r bobl, digwyddiadau, golygfeydd a theimladau'r awdur sydd yn teithio o amgylch man dieithr. Weithiau gelwir darn unigol o waith yn deithlun.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol ![]() |
---|---|
Math | gwaith llenyddol, tysteb personol ![]() |
Rhan o | travel literature ![]() |
![]() |

Er mwyn i'r gwaith gael ei ystyried yn llenyddiaeth, rhaid fod ganddo naratif cydlynus, neu fewnweledigaeth a gwerth sydd yn fwy na chofnodi dyddiadau a digwyddiadau'n unig, er enghraifft mewn dyddiadur neu log llongau. Mae llenyddiaeth sy'n olrhain anturiaethau ac archwiliadau yn aml yn cael eu categoreiddio o dan llenyddiaeth teithio ond mae iddo hefyd ei genre ei hun o lenyddiaeth awyr agored; yn aml, bydd y mathau yma o lenyddiaeth yn gor-gyffwrdd heb unrhyw ffiniau cadarn.