Nid yw Cymru ar Werth
- Gweler hefyd: Argyfwng tai Cymru
Mudiad yn erbyn ail dai yng Nghymru yw Nid yw Cymru ar Werth.[1]
Hanes
golyguYmgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith
golyguAberystwyth
golyguYm mis Chwefror 2022 fe aeth dros 1,000 o bobl i rali yn Aberystwyth. Dywedodd Osian Jones, "Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau'r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth.
"Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o'n stoc tai i'r farchnad ail
gartrefi ac Airbnb.
"Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae'n gyfle i ni atgoffa'n hunain bod ymgyrchu'n talu ffordd heddiw gymaint ag erioed felly mae angen dal i bwyso.
"A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd a pharhad i'n cymunedau trwy fod ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw."[2]
Ynys Môn
golyguYm mis Tachwedd 2022, cafodd nifer o dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn eu targedu gan aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith gyda phosteri yn dweud "Nid yw Cymru ar Werth". Cafodd pedair gwaith yn fwy o ail gartrefi eu gwerthu yng Nghymru o gymharu â chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf, yn ôl Nation Cymru.[3]
Caernarfon
golyguFe aeth 1500 o bobl i rali Nid yw Cymru ar Werth yng Nghaernarfon ym mis Mai 2023. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu deddfwriaeth sy'n cynnwys:
- Hawl i gartref yn lleol
- Cynlluniau ar gyfer anghenion lleol
- Grymuso cymunedau lleol
- Yn blaenoriaethu pobl leol
- Yn rheoli'r sector rhentu
- Adeiladu cartrefi cynaliadwy
- Yn buddsoddi mewn cymunedau[4]
Dywedodd Ffred Ffransis, “Mae’r system bresennol hon yn gyrru pobl ifanc yn arbennig allan o’u cymunedau wrth i dai gael eu bachu – yn aml ar-lein o fewn oriau – gan bobl sy’n symud i mewn o ardaloedd incwm uwch y tu allan i Gymru.
“Mae’r broses hon yn dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith, ond mae hefyd yn fater ehangach ledled Cymru wrth i bobl leol gael eu gorfodi allan gan ddatblygiadau masnachol i gymudwyr, pobl yn ymddeol, a rhenti anfforddiadwy.
“Mae Cymdeithas yn galw am Ddeddf Eiddo, a fyddai’n rheoleiddio’r farchnad agored ac yn trin tai fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau yn hytrach na’r system marchnad agored sy’n ystyried tai fel asedau masnachol er elw.”[5]
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r Llywodraeth wedi addo Papur Gwyn Deddf Eiddo cyn diwedd y tymor Seneddol hwn, ond nid oes sôn amdano na'r cynnwys eto. Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno rhai mesurau cyfyngedig i leihau effaith ail gartrefi a llety gwyliau nid ydynt wedi mynd at wraidd y broblem - ac nid yw'n ymddangos eu bod yn ei thrafod.
"Rydym wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo ers diwedd y 70au, mae'r angen yn fwy nag erioed, ac mae nawr yn gyfle i ddatrys y broblem, unwaith ac am byth - drwy Ddeddf Eiddo a fydd yn rheoleiddio'r farchnad."[6]
Gwenno Saunders
golyguAr lwyfan Gŵyl Glastonbury yn mis Mehefin 2023, dywedodd Gwenno Saunders, yn Saesneg "Yng Nghymru mae gennym ddywediad 'Nid yw Cymru ar Werth'" ac mae ganddi gân o'r enw N.Y.C.A.W.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Ahmed, Reem (2023-06-25). "Gwenno appears on Glastonbury stage with huge 'Wales is not for sale' sign". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ "Rali yn Aberystwyth i dynnu sylw at yr argyfwng tai". BBC Cymru Fyw. 2022-02-19. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ "'Wales is not for sale': Holiday homes plastered in posters by campaigners".
- ↑ "1,500 people mark coronation holiday at Wales Is Not For Sale rally". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-05-08. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Morris, Steven (2023-05-08). "Second homes 'destroying' Welsh-speaking areas, say campaigners". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Jones, Branwen (2023-05-08). "Hundreds attend rally highlighting housing 'crisis' in Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-28.