Niki Lauda
Gŵr busnes a gyrrwr rasio Fformiwla Un o Awstria oedd Andreas Nikolaus "Niki" Lauda (22 Chwefror 1949 – 20 Mai 2019). Enillodd bencampwriaeth y byd dair gwaith, yn 1975, 1977 a 1984.
Niki Lauda | |
---|---|
Ganwyd | Andreas Nikolaus Lauda 22 Chwefror 1949 Fienna |
Bu farw | 20 Mai 2019 Zürich |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, hedfanwr, entrepreneur, cyfarwyddwr chwareon |
Cyflogwr | |
Tad | Ernst-Peter Lauda |
Mam | Elisabeth Lauda |
Priod | Marlene Knaus, Birgit Wetzinger |
Plant | Mathias Lauda, Lukas Lauda, Christoph Lauda, Mia Lauda, Max Lauda |
Gwobr/au | Addurniad Aur Mawr Styria, BBC World Sport Star of the Year |
Chwaraeon | |
Tîm/au | March Engineering, British Racing Motors, Scuderia Ferrari, Brabham, McLaren |
Gwlad chwaraeon | Awstria |
Gyrfa
golyguGaned ef yn Fienna i deulu cefnog oedd yn hanu o Galicia. Daeth yn yrrwr Fformiwla 2 i dîm March yn 1971, ac yn yrrwr Fformiwla Un yn fuan wedyn. Ymunodd â thîm Ferrari yn 1974; enillodd ei ras Fformiwla Un gyntaf, Grand Prix Sbaen, yr un flwyddyn.
Yn ystod Grand Prix yr Almaen, 1976, cafodd ddamwain ddifrifol iawn. Aeth ei gar ar dân, a methodd Lauda ddod allan ohono. Llosgwyd ef mor ddifrifol nes i offeiriad roi'r sacrament olaf iddo, ond roedd yn rasio eto ymhen chwech wythnos. Enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar ôl dychwelyd yn Grand Prix De Affrica 1977, y ras lle lladdwyd y Cymro Tom Pryce.
Wedi ymddeol fel gyrrwr, dechreuodd gwmni awyrennau Lauda Air.