Celloedd llwydaidd neu gochlyd a gaiff eu cynhyrfu'n drydanol yn y system nerfol yw niwronau (hefyd nerfgell), sy'n prosesu a throsglwyddo gwybodaeth.

Niwron
Enghraifft o'r canlynolmath o gell Edit this on Wikidata
Mathcydadran neu elfen fiolegol, neural cell Edit this on Wikidata
Rhan osystem nerfol, meinwe nerfol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdendrite, axon, myelin sheath, perikaryon, cnewyllyn cell, axon terminus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwybodaeth golygu

Niwronau yw cyfansoddyn craidd y brif system nerfol, gan gynnwys yr ymennydd a madruddyn y cefn o'r fertebratau neu'r llinyn nerfol torrol o'r infertebratau, a'r system nerfol berifferol.

Mae nifer o wahanol fathau o niwronau yn bodoli: mae niwronau synhwyraidd (neu afferol) yn ymateb i gyffyrddiad, sain, golau, a nifer o ysgogiadau eraill sy'n effeithio'r organau synhwyrol ac yn anfon signalau i fadruddyn y cefn a'r ymennydd. Mae niwronau echddygol yn derbyn arwyddion o'r ymennydd a'r madruddyn ac yn achosi cyfangiad y cyhyrau ac yn effeithio chwarennau. Mae rhyngniwronau yn cysylltu'r niwronau gyda niwronau eraill o fewn y madruddyn.