Llinyn yr asgwrn cefn

Sypyn tew gwynnaidd a silindrog o feinwe nerfol a chelloedd glia sy'n ymestyn o'r craidd hirgul (medwla oblongata) yng nghoesyn yr ymennydd i adran feingefnol yr asgwrn cefn yw llinyn y cefn neu fadruddyn y cefn. Mae'r asgwrn cefn yn amgáu tiwb canolog llinyn y cefn, sy'n cynnwys hylif serebro-sbinol. Ynghyd â'r ymennydd mae'n ffurfio y brif system nerfol y corff.

Mewn bodau dynol, mae llinyn y cefn yn dechrau yn asgwrn y gwegil, gan fynd trwy'r fforamen mawr ac yna'n mynd i mewn i diwb y asgwrn cefn ar ddechrau'r fertebrâu gyddfol. Mae llinyn y cefn yn ymestyn i lawr i rhwng y fertebra cyntaf a'r ail fertebra'r meingefn, lle mae'n dod i ben. Mae'r asgwrn cefn esgyrnog yn amddiffyn llinyn y cefn sy'n gymharol fyrrach.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.