Niwtron

(Ailgyfeiriad o Niwtronnau)

Yn Ffiseg, mae niwtron yn ronyn isatomig gyda gwefr net o sero a más o 939.573 MeV/c² (1.6749 × 10–27 kg, ychydig bach yn fwy na proton). Mae'r niwtron, fel y proton, yn niwcleon.

Niwtron
1 i fynu, 2 i lawr
1 i fynu, 2 i lawr
Adeiledd y niwtron yn cynnwys cwarciau
Nodweddion

Dosbarthiad: Baryon
Cyfansoddiad: 1 i fynu, 2 i lawr
Teulu: Fermion
Grŵp: Cwarc
Rhyngweithiad: Disgyrchedd, Gwan, Cryf
Gwrthgronyn: Antiniwtron
Damcaniaethiad: Ernest Rutherford (1919)
Darganfyddwyd: James Chadwick (1932)
Symbol(au): n, n0, N0
Mas: 1.67492729(28)×10−27 kg
939.565560(81) MeV/c2 1.0086649156(6) u [1]
Hyd oes cymedrig: >885.7(8) s (allan)
Cerrynt Trydanol:0 e , 0 °C]
Moment y deupol trydanol: <2.9×10−26 e cm
Polareiddedd Trydanol: 1.16(15)×10−3 fm3
Moment Magnetig: -1.9130427(5) μN
Polareiddiedd Magnetig: 3.7(20)×10−4 fm3
Sbin: 1⁄2
Isosbin: 1⁄2
Paredd: +1
Cyddwysedig: I(JP) = 1⁄2(1⁄2+)

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae niwclews y rhan fwyaf o atomau (pob un ar wahân i isotôp mwyaf cyffredin Hydrogen, Protium, sy'n cynnwys dim ond un proton yn unig) wedi eu ffurfio o brotonnau a niwtronnau. Y nifer o niwtronnau yn y niwclews sy'n penderfynu pa isotôp o'r elfen ydyw. (Er enghraifft, mae gan yr isotôp carbon-12 6 proton a 6 niwtron, tra bod gan yr isotôp carbon-14 6 proton a 8 niwtron. Isotôpau yw atomau sydd â'r un rhif atomig (a felly yr un elfen) ond gwahanol másau oherwydd gwahanol nifer o niwtronnau.

Gweler Hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.