Nordkapp
Ardal (kommune) yn nhalaith Finnmark yng ngogledd Norwy yw Nordkapp neu Penrhyn y Gogledd (Norwyeg Nordkapp neu Nordkapp kommune, Saami Davvinjárga neu Davvinjárgga gielda). Mae'r ardal yn cynnwys ynys Magerøya, ynghyd â rhannau o'r tir mawr i'r dwyrain ac i'r gorllewin o fjørd Porsangen. Honningsvåg, pentref pysgota yn ne-ddwyrain ynys Magerøya, yw'r prif dreflan. Pentrefi eraill yw Nordvågen, Kamøyvær, Skarsvåg a Gjesvær. Man enwoca'r ardal yw Nordkapp ei hun, penrhyn y gogledd, craig 307m yng ngogledd Magerøya.
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Norwy ![]() |
---|---|
Prifddinas | Honningsvåg ![]() |
Poblogaeth | 2,947 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Trudy Engen ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Hollola ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Troms og Finnmark ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 925.69 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Måsøy, Porsanger, Lebesby ![]() |
Cyfesurynnau | 71.01667°N 25.78333°E, 70.97808°N 25.97473°E ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Nordkapp ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Trudy Engen ![]() |
![]() | |
Mae man mwyaf gogleddol Ewrop (heblaw am ynysoedd Arctig Norwy a Rwsia) yn gorwedd o fewn Nordkapp, yn Knivskjellodden. Mae hyn yn denu twristiaid i'r ardal — mae rhyw 200,000 yn ymweld bob blwyddyn.
Daeth y lle'n enwog pan hwyliodd y fforiwr Saesneg Richard Chancellor heibio iddo ar ei fordaith i ddarganfod ffordd ogleddol i Rwsia yn 1553. Daw'r enw o drosiad Norwyeg o'r Saesneg North Cape 'Penrhyn y Gogledd'. Knyskanes oedd yr enw Hen Norseg amdano. Enw gwreiddiol yr ardal (kommune) oedd Kjelvik, ar ôl pentref pysgota o'r un enw. Distrywiwyd y pentref gan luoedd Almaenig yn 1944, a chafodd ef mo'i ailadeiladu wedyn. Newidiwyd enw'r ardal i Nordkapp yn 1950.