Uibhist a Tuath

(Ailgyfeiriad o North Uist)

Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Uibhist a Tuath (Saesneg: North Uist).

Uibhist a Tuath
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasLoch nam Madadh Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,254 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd30,305 ha Edit this on Wikidata
GerllawMinch, Sea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.6°N 7.3333°W Edit this on Wikidata
Map
Y traeth, Gwarchodfa Natur Balranald

Uibhist a Tuath yw'r ynys fwyaf gogleddol o'r grŵp deheuol o Ynysoedd Allanol Heledd. Enw arall arni yw Tir an Eòrna, "Tir yr Haidd". Mae tua 30 km o hyd a 20 km o led, gyda llynnoedd yn ffurfio tua traean o'i harwynebedd. Tir cymharol isel yw'r rhan fwyaf o'r ynys, gyda'r copa uchaf, Maireabhal (Saesneg: Marrival) yn 230 metr uwch lefel y môr. Ceir nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas, yn cynnwys Beàrnaraigh, Orosaigh, Baile Siar a Griomasaigh. I’r gogledd, mae sarn yn cario’r ffordd i Beàrnaraigh, lle mae fferi Calmac (talfyriad o Caledonian MacBrayne) i Leverburgh ar Na Hearadh (“Harris”)[1]. I'r de, mae'r briffordd A865 yn ei chysylltu ag ynys Beinn na Faoghla (Benbecula). Mae'r boblogaeth tua 1,500, gyda'r mwyafrif yn siarad Gaeleg. Y pentref mwyaf yw Loch na Madadh.

Rhoddwyd yr ynys gan y brenin James IV o’r Alban i’r teulu McDonald o Sleat (Mae Sleat ar An t-Eilean Sgitheanach - Saesneg:Skye - ym 1495. Cliriwyd mwyafrif y preswylwyr o’r tir cyn iddynt wedi gwerthu’r ynys ym 1855.[2]

Mae gan Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar warchodfa ar yr ynys, sef Gwarchodfa Natur Balranald.[3]

Mae fferi CalMac yn cysylltu Loch na Madadh ag Ynys Skye.[4]

Lleoliad Uibhist a Tuath

Cyfeiriadau golygu