Tîm pêl-droed cenedlaethol Norwy
(Ailgyfeiriad o Norwy national football team)
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Norwy (Norwyeg: Norges herrelandslag i fotball) yn cynrychioli Norwy yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Norwy (Norwyeg: Norges Fotballforbund) (NFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r NFF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Math o gyfrwng | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Perchennog | Cymdeithas Bêl-droed Norwy |
Gwladwriaeth | Norwy |
Gwefan | https://www.fotball.no/landslag/norge-a-herrer/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Norwy wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd tair gwaith ac ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop unwaith. Maent hefyd wedi cipio'r fedal efydd yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn Berlin 1936.