Rhys Ifans
Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed Rhys Owain Evans: 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Mae'n frawd hŷn i'r actor Llŷr Ifans.
Rhys Ifans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Rhys Owain Evans ![]() 22 Gorffennaf 1967 ![]() Hwlffordd ![]() |
Man preswyl | Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor, actor teledu, cerddor ![]() |
Arddull | comedi, melodrama ![]() |
Partner | Anna Friel, Sienna Miller ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Ffilm yr Academi Frenhinol ![]() |
Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis cyfresi Swig o..., Sdwnsh, Mwy Na Phapur Newydd a Pobl y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.
Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Wici Cymru, sef y gymdeithas sy'n gefn i Wicipedia Cymraeg.
Gyrfa
golyguMae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif ganwr y Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef Sienna Miller, a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith.
Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei gyfraniad i'r byd ffilmiau.
Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', a berfformiwyd yn Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.
Serenodd yn Last Call Steven Bernstein, a ryddhawyd yn theatrig yn yr Unol Daleithiau ar 25 Tachwedd 2020. Mae’n biopic swreal, sy’n ail-greu bywyd y bardd o Gymro Dylan Thomas trwy ôl-fflachiau yn ystod y sesiynau yfed enwog yn White Horse Tavern yn Ninas Efrog Newydd a ddaeth i ben yn angheuol yn 1953. Mae'n serennu Ifans fel Thomas ochr yn ochr â John Malkovich, Rodrigo Santoro, Romola Garai, Zosia Mamet, a Tony Hale.
Ar 16 Tachwedd 2021 datgelwyd, trwy drelar swyddogol y ffilm, y byddai Ifans yn ailafael yn ei rôl fel Lizard (o'r ffilm The Amazing Spider-Man) yn y ffilm Marvel Cinematic Universe Spider-Man: No Way Home, a ryddhawyd ar 17 Rhagfyr. Yn ddiweddarach datgelwyd nad oedd Ifans yn bresennol ar y set mewn gwirionedd a dim ond benthyg ei lais ar gyfer y cymeriad a grëwyd trwy ddulliau digidol CGI, gyda'i ffurf ddynol ar ddiwedd y ffilm yn dod o ffilm archifol o The Amazing Spider-Man.[1][2]
Ymddangosodd Ifans hefyd fel Grigori Rasputin yn y ffilm ysbïwr The King's Man, a ryddhawyd yn Rhagfyr 2021.[3]
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1996 | August | Griffiths | |
1997 | Twin Town | Jeremy Lewis | |
1998 | Dancing at Lughnasa | Gerry Evans | |
1999 | Heart | Alex Madden | |
You're Dead | Eddie | ||
Notting Hill | Spike | ||
Janice Beard 45 WPM | Sean | ||
Hooves of Fire | Head Elf | Llais | |
2000 | Rancid Aluminium | Pete Thompson | |
Love, Honour and Obey | Matthew | ||
Kevin & Perry Go Large | Eyeball Paul | ||
Sali Mali | Adroddwr | ||
The Replacements | Nigel Gruff | ||
Little Nicky | Adrian | ||
2001 | Hotel | Trent Stoken | |
Christmas Carol: The Movie | Bob Cratchit | Llais | |
The Shipping News | Beaufield Nutbeem | ||
Human Nature | Puff | ||
The 51st State/Formula 51 | Iki | ||
2002 | Once Upon a Time in the Midlands | Dek | |
2003 | Danny Deckchair | Danny Morgan | |
2004 | Vanity Fair | William Dobbin | |
Enduring Love | Jed | ||
2005 | Midsummer Dream | Lysander | Llais: fersiwn Saesneg |
Chromophobia | Colin | ||
2006 | Garfield: A Tail of Two Kitties | McBunny | Llais |
2007 | Four Last Songs | Dickie | |
Hannibal Rising | Grutas | ||
Elizabeth: The Golden Age | Robert Reston | ||
2008 | Come Here Today | Alex | |
2009 | The Informers | Roger | |
The Boat That Rocked | Gavin Kavanagh | ||
Mr. Nobody | Nemo's Father | ||
2010 | Mr. Nice | Howard Marks | |
Greenberg | Ivan Schrank | ||
Passion Play | Sam Adamo | ||
Nanny McPhee and the Big Bang | Uncle Phil | ||
Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 | Xenophilius Lovegood | ||
Exit Through the Gift Shop | Adroddwr | ||
2011 | Anonymous | Edward de Vere | |
2012 | The Five-Year Engagement | Winton Childs | |
The Amazing Spider-Man | Dr. Curt Connors / Lizard[4] | Cynigiwyd — Dewis y Glasoed ar gyfer Choice Movie Villain | |
2013 | Another Me | Don | |
2014 | Serena | Galloway | |
Madame Bovary | Monsieur Lheureux | ||
2015 | Dominion | Dylan Thomas | |
She's Funny That Way | Seth Gilbert | ||
Len and Company | Len Black | ||
Under Milk Wood | Captain Cat | Hefyd yn gynhyrchydd | |
2016 | Alice Through the Looking Glass | Zanik Hightopp | |
Snowden | Corbin O'Brian | ||
2018 | The Parting Glass[5] | Karl | |
2019 | Official Secrets | Ed Vulliamy | |
2020 | Misbehaviour | Eric Morley | |
Last Call | Dylan Thomas | ||
2021 | La Cha Cha | Jeremiah | |
The Phantom of the Open | Keith Mackenzie | ||
Spider-Man: No Way Home | Dr. Curt Connors / Lizard[1] | Llais a ffilm o'r archif | |
The King's Man | Grigori Rasputin | ||
2023 | Nyad | John Bartlett | |
Mother, Couch | Gruffudd | ||
2024 | Venom: The Last Dance | Martin Moon | |
2025 | Inheritance | Sam | |
TBA | The Scurry | Ôl-Gynhyrchiad[6] |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1991 | Spatz | Dave | 2 bennod |
1995 | Screen Two | Kevin | Pennod: "Streetlife" |
1997 | Trial & Retribution | Michael Dunn | 2 bennod |
2000, 2020–presennol | Sali Mali | Adroddwr | 2 bennod |
2004 | Not Only But Always | Peter Cook | Ffilm deledu |
2008 | A Number | Bernard (B2) | Ffilm deledu |
2011 | Neverland | James Hook | Ffilm deledu |
2012 | The Corrections | Gitanas | Unaired pilot |
2013 | Playhouse Presents | Chris | Pennod: "Gifted" |
2013–2014 | Elementary | Mycroft Holmes | 7 pennod |
2016–2019 | Berlin Station | Hector DeJean | 24 pennod |
2021 | Temple | Gubby | Cyfres 2 |
2022–presennol | House of the Dragon | Otto Hightower | Prif gast |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Empty citation (help)
- ↑ Welch, Alex (20 December 2021). "Two 'Spider-Man: No Way Home' villains reveal Marvel's laziest mistake". Inverse (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
- ↑ Roth, Dany. "Rhys Ifans Reveals How He Became Rasputin For The King's Man - Exclusive". Looper.
- ↑ "Rhys Ifans Will Play the Lizard in 'Spider-Man'". /Film. 14 October 2010. Cyrchwyd 13 October 2010.
- ↑ "The Parting Glass (2018)". IMDb. 31 May 2020.
- ↑ Dalton, Ben (15 May 2024). "'Fallout' star Ella Purnell joins Craig Roberts' killer squirrel comedy-horror 'The Scurry' for True Brit (exclusive)". Screen Daily. Cyrchwyd 17 May 2024.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Rhys Ifans ar wefan Internet Movie Database