Gylfinir
Gylfinir | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Numenius |
Rhywogaeth: | N. arquata |
Enw deuenwol | |
Numenius arquata (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Gylfinir Numenius arquata, yn un o'r rhydyddion yn perthyn i deulu'r Scolopacidae. Mae'n un o'r mwyaf cyffredin o deulu'r Gylfinir, yn nythu ar hyd rhannau helaeth o Ewrop ac Asia.
Fel rheol mae'r Gylfinir yn aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica, de Ewrop a de Asia. Yn Iwerddon a Phrydain ac arfordir cyfagos y cyfandir mae'n aros trwy'r flwyddyn. Tu allan i'r tymor nythu maent yn hel at ei gilydd yn heidiau.
Y Gylfinir yw'r mwyaf o'r rhydyddion yn Ewrop ac Asia, 50–57 cm o hyd ac 1m ar draws yr adenydd. Mae'n frownllwyd gyda gwyn ar du ôl y cefn. Daw'r enw o'r pig hir a thro ynddo; mae'r pig yn hirach yn yr iâr na'r ceiliog. Yr unig aderyn tebyg yn Ewrop yw'r Coegylfinir, sy'n llai. Mae'n bwydo trwy chwilio yn y mwd am anifeiliaid bychain. Mae'n nythu ar lawr, gan ddodwy 3-6 ŵy.
Yng Nghymru, mae'r Gylfinir yn nythu ar yr ucheldiroedd yn bennaf. Mae'r nifer sy'n nythu yma wedi gostwng yn sylweddol iawn yn y 30 mlynedd diwethaf, efallai oherwydd newidiadau yn nulliau amaethyddiaeth. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aderyn niferus iawn ar y glannau, gan fod adar sy'n nythu yn Yr Alban a gwledydd Llychlyn yn dod yma i aeafu.
Llenyddiaeth
golygu- Cŵn Ebrill
Dyma bennill cyntaf Y Gylfinir gan R. Williams Parry:
- Dy alwad glywir hanner dydd
- Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos;
- Fel chwiban bugail a fo gudd
- Dy alwad glywir hanner nos:
- Nes clywir, pan ddwysâ dy swn
- Cyfarth dy anweledig gwn.
“Cŵn Ebrill, yw’r enw mewn rhai ardaloedd ar ylfinirod yn enwedig pan glywir eu galwadau liw nos yn y gwanwyn cynnar. Nid yw’r alwad yn anymunol ond gwn am rai sy’n arswydo wrth ei chlywed, er iddynt wadu unrhyw wybodaeth am Gwn Annwn, a aethai ar un adeg ar herw am eneidiau’r meirw yn yr awyr.”[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (cyfieithiad: T. Gwynn Jones Welsh Folklore And Folk Custom yn y bennod sy’n cyfeirio at “Ghosts and other apparitions