Cerdd ganoloesol ydy "O Fortuna", a ysgrifennwyd yn y 13g. Mae hi'n rhan o'r casgliad sy'n cael ei hadnabod fel y Carmina Burana. Cwyn am Fortuna ydy'r gerdd, y dynged ddidostur sy'n rheoli tros holl ddynion a duwiau ym mytholeg Rufeinig a Groegaidd.

Ym 1935-36, ysgrifennwyd cerddoriaeth ar gyfer y gerdd gan gyfansoddwr Almaeneg Carl Orff fel rhan o "Fortuna Imperatrix Mundi", mudiad agoriadol ei gantata Carmina Burana. Mae perfformiad ohoni'n para am tua dwy funud a hanner.

Y Gerdd golygu

 
Gwelir y gerdd yn chwe llinell olaf y llawysgrif hon.
Y Gerdd a Chyfieithiad i'r Gymraeg

O Fortuna
velut luna
statu variabilis,
semper crescis
aut decrescis;
vita detestabilis
nunc obdurat
et tunc curat
ludo mentis aciem,
egestatem,
potestatem
dissolvit ut glaciem.

Sors immanis
et inanis,
rota tu volubilis,
status malus,
vana salus
semper dissolubilis,
obumbrata
et velata
michi quoque niteris;
nunc per ludum
dorsum nudum
fero tui sceleris.

Sors salutis
et virtutis
michi nunc contraria,
est affectus
et defectus
semper in angaria.
Hac in hora
sine mora
corde pulsum tangite;
quod per sortem
sternit fortem,
mecum omnes plangite!

O Fortuna,
fel y lleuad,
cyfnewidiol wyt,
rwyt yn tyfu,
neu'n lleihau;
bywyd atgas
gormesu'n gyntaf,
ac esmwytho wedyn
chwarae ag eglurder y meddwl
tlodi,
a phŵer,
fe'u chwalir fel iâ

Tynged - anferth
a gwag,
olwyn sy'n troi,
drygnaws wyt,
ofer yw hunanles,
sy'n pylu ar ddim
wedi'i gysgodi
a'i orchuddio
ti a'm poeni di hefyd;
rŵan trwy'r gêm,
dof a'm cefn noeth
i'th anfadwaith.

Tynged sydd yn fy erbyn,
mewn iechyd
a rhinwedd,
wedi'i yrru ymlaen
a'i bwyso i lawr,
a'i gadw yn gaeth.
Felly yn awr,
heb oedi,
tynnwch y tannau sy'n dirgrynu,
gan fod tynged,
yn llorio'r rhai cryf,
pob un ohonoch, wylwch â mi!

Gweler hefyd golygu

  • O Fortuna gan Carl Orff mewn diwylliant poblogaidd

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu