Detholiad o ysgrifau gan O. M. Lloyd yw O Gader Idris. Gwasg y Dydd a gyhoeddodd y gyfrol a olygwyd gan Tecwyn Owen, a hynny yn 1997. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

O Gader Idris
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddTecwyn Owen
AwdurO. M. Lloyd
CyhoeddwrGwasg y Dydd
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncYsgrifau Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780863814587

Disgrifiad byr golygu

Detholiad o ysgrifau O.M. Lloyd a ysgrifennwyd ganddo yn Y Dydd, papur lleol yn Nolgellau.

Roedd O.M. Lloyd yn weinidog yng nghapel annibynnol y Tabernacl, Dolgellau. O Ffestiniog, bu'n weinidog yn Abertawe (Mynydd Bach) ac yng Nghaernarfon yn ddiweddarach. Yr oedd, hefyd, yn fardd ac ef oedd meuryn Talwrn y Beirdd am gyfnod.

Dechreuodd ysgrifennu ei golofn wythnosol yn y Dydd o dan y pennawd, "O Ben y Bont Fawr", a datblygodd hyn yn ddiweddarach i fod yn "O Gader Idris".

Roedd yn genedlaetholwr, yn heddychwr ac yn Gristion o arddeliad. Adlewyrcha'r erthyglau hyn y gwerthoedd hynny tra'n trin a thrafod materion y dydd yn Nolgellau, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013