Y Dydd
Papur newydd Cymraeg oedd Y Dydd, a sefydlwyd ym 1868 gan Samuel Roberts, Llanbrynmair, wedi iddo ddychwelyd o America. Cyhoeddwyd gan William Hughes, Dolgellau.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Golygydd | Samuel Roberts |
Cyhoeddwr | William Hughes |
Gwlad | Cymru |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 5 Mehefin 1868 |
Dechrau/Sefydlu | 1868 |
Rhagflaenwyd gan | Y Tyst a'r Dydd |
Olynwyd gan | Y Tyst a'r Dydd |
Lleoliad cyhoeddi | Dolgellau |
Perchennog | William Hughes |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | William Hughes, Samuel Roberts |
- Am y rhaglen deledu, gweler Y Dydd (rhaglen newyddion)
Hanes
golyguCynorthwywyd Samuel Roberts ('S.R.') yn ei olygyddiaeth gan Richard Davies (Mynyddog). Bu William Hughes yn ei gyhoeddi hyd 1910, a’i ddau fab wedyn. Cylchredai'r Dydd ymhlith yr Annibynwyr yn bennaf.
Unwyd Y Dydd â’r Tyst Cymreig yn 1871 a’i enw oedd Y Tyst a’r Dydd. Symudwyd Y Tyst a’r Dydd i Ferthyr Tudful yn 1872 ond parhawyd i gyhoeddi Y Dydd yn Nolgellau hyd 1891. Yn 1954 fe'i unwyd â’r Corwen Chronicle gan ffurfio Y Dydd a'r Corwen Chronicle a gyhoeddir o hyd (2016) yn Nolgellau o dan yr un enw.