Un o oblastau Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманская о́бласть, Murmanskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Murmansk. Poblogaeth: 795,409 (Cyfrifiad 2010).

Oblast Murmansk
Mathoblast Edit this on Wikidata
PrifddinasMurmansk Edit this on Wikidata
Poblogaeth656,438 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Mai 1938 Edit this on Wikidata
AnthemQ4138471 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrey Chibis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd144,902 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Arkhangelsk, Karelia, Lapland, Finnmark, Troms og Finnmark Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau68.03°N 34.57°E Edit this on Wikidata
RU-MUR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholMurmansk Oblast Duma Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Murmansk Oblast Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrey Chibis Edit this on Wikidata
Map
Baner Oblast Murmansk.
Lleoliad Oblast Murmansk yn Rwsia.

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol, yn bennaf ar Benrhyn Kola, ac mae'n rhan o ranbarth diwylliannol Lapland sy'n cynnwys pedair gwlad. Mae'n gorwedd bron yn gyfan gwbl i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Mae Oblast Murmansk yn ffinio gyda Karelia, swydd Finnmark yn Norwy a Thalaith Lapland yn y Ffindir. Mae ganddo arfordir ar lan Môr Barents a'r Môr Gwyn. Mae Swydd Norrbotten yn Sweden yn agos hefyd (300 km).

Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr oblast yn fryniog, gan godi i'w phwynt uchaf ym Mynyddoedd Khibiny. Yn y gogledd ceir tundra, gyda taiga yn y de. Er gwaethaf ei leoliad gogleddol, mae'r hinsawdd yn llai oer na'r disgwyl oherwydd effaith Llif y Gwlff.

Sefydlwyd Oblast Murmansk ar Fai 28, 1938. Mae'n ardal o bwys strategol i Rwsia; mae gan Llynges Ogleddol Rwsia ei phencadlys yn Severomorsk, 25 km i'r gogledd o Murmansk.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.