Oblast Nizhny Novgorod
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Nizhny Novgorod (Rwseg: Нижегоро́дская о́бласть, Nizhegorodskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Nizhny Novgorod. Poblogaeth: 3,310,597 (Cyfrifiad 2010).
![]() | |
![]() | |
Math |
oblast ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Nizhniy Novgorod ![]() |
Poblogaeth |
3,234,752 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Gleb Nikitin ![]() |
Cylchfa amser |
Amser Moscfa, UTC+03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
European Russia, Dosbarth Ffederal Volga ![]() |
Sir |
Rwsia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
76,900 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Oblast Kostroma, Oblast Kirov, Mari El, Chuvash Republic, Republic of Mordovia, Oblast Ryazan, Oblast Vladimir, Oblast Ivanovo, Nizhniy Novgorod ![]() |
Cyfesurynnau |
56.48°N 44.53°E ![]() |
RU-NIZ ![]() | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Governor of Nizhny Novgorod Oblast ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Gleb Nikitin ![]() |
![]() | |
Lleolir Oblast Nizhny Novgorod yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Llifa Afon Volga drwy'r oblast. Ar wahân i ardal fetroplitaidd Nizhny Novgorod ei hun, Arzamas yw'r ddinas fwyaf. Mae dinasoedd a threfi eraill yn cynnwys Sarov, lle ceir Mynachlog Serafimo-Diveyevsky, Lyskovo sy'n enwog am ei ffair fawr, Gorodets a Balakhna ar lan Afon Volga.
Ffinia'r oblast gyda Oblast Kostroma (gog.), Oblast Kirov (gog-ddwy.), Gweriniaeth Mari El (dwy.), Gweriniaeth Chuvash (dwy.), Gweriniaeth Mordovia (de), Oblast Ryazan (de-orll.), Oblast Vladimir (gorll.), ac Oblast Ivanovo (gog-orll.).
Sefydlwyd Oblast Nizhny Novgorod ar 5 Rhagfyr 1936.
Dolenni allanolGolygu
- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast