Gweriniaeth sy'n aelod o Ffederasiwn Rwsia yw Gweriniaeth Mari El (Rwseg: Респу́блика Мари́й Эл Respublika Mariy El ; Mari: Марий Эл Республик Marii El Respublik). Trawslythrennir yr enw Mari El fel Mariy El neu Marii El hefyd weithiau. Sefydlwyd y weriniaeth ar y 4ydd o Dachwedd 1920. Mae'n rhan o ardal Dosbarth Ffederal Volga. Y brifddinas yw Yoshkar-Ola. Poblogaeth: 727,979.

Mari El
Mathgweriniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
PrifddinasYoshkar-Ola Edit this on Wikidata
Poblogaeth675,332 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem Swyddogol Y Weriniaeth Mari El
Pennaeth llywodraethYuriy Zaytsev Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Mari, Hill Mari Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRwsia Ewropeaidd, Dosbarth Ffederal Volga Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd23,200 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Nizhny Novgorod, Oblast Kirov, Tatarstan, Chuvash Republic Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.7°N 47.87°E Edit this on Wikidata
RU-ME Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolQ65420769 Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholState Assembly of the Mari El Republic Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd y Weriniaeth Mari El
Pennaeth y LlywodraethYuriy Zaytsev Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Mari El yng ngorllewin Ffederasiwn Rwsia, yn rhan ddwyreiniol Gwastadedd Ewropeaidd Rwsia. Mae'n ffinio ar Oblast Nizhny Novgorod, Oblast Kirov, Gweriniaeth Tatarstan a Gweriniaeth Chuvash. Mae tua 55% o'r weriniaeth yn goediog. Llifa Afon Volga trwy'r wlad a cheir dros 200 o lynnoedd.

Yn ôl Cyfrifiad Rwsia 2002, mae'r Mariaid - pobl Ffino-Wgraidd sydd wedi byw yn y rhanbarth ers tua'r 5g o leiaf - yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain erbyn hyn. Mae 47.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid a dim ond 42.3% yn Fariaid. Mae grwpiau ethnig eraill yn cynnwys y Tatar (6.0%), Chuvash (1.0%), ac Iwcrainiaid (0.7%).

Yn 2008, etholwyd arlywydd Rwsiaidd, Leonid Markelov. Yn ôl adroddiadau mae'r arlywydd wedi cau sawl papur newydd Mari mewn ymgyrch i Rwsieiddo Mari El. Gwaharddwyd llyfr ar y sefyllfa hefyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Banio llyfr Mari". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-21. Cyrchwyd 2009-02-04.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: