Occupy Wall Street
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Protest gwrth-gyfalafol yn Ninas Efrog Newydd ydy Occupy Wall Street. Sbardunwyd gan y cylchgrawn gwrth-gyfalafol Adbusters,[1] gan ddenu ysbrydoliaeth o brotestiadau tebyg y Los Indignados yn Sbaen[2] a'r Gwanwyn Arabaidd. Yn bennaf maent yn protestio yn erbyn anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol, bariaeth corfforaethau, grym cwmnïau a'u dylanwad dros y llywodraeth (yn enwedig y sector gwasanaethau ariannol) a lobïo. Arwyddair y mudiad yw We are the 99% ("Ni yw'r 99%") sy'n cyfeirio at yr anghydraddoldeb o ran incwm yn yr Unol Daleithiau: mae'r 1% cyfoethocaf yn rheoli tua 40% o gyfoeth y wlad.
Cychwynnodd y gwrthdystiad ar 17 Medi 2011 ac erbyn 9 Hydref bu protestiadau tebyg mewn 70 o ddinasoedd a thros 600 o gymunedau yn yr Unol Daleithiau. Mae protestiadau eraill gyda'r enw "Occupy" wedi eu cynnal mewn dros 900 o ddinasoedd ar draws y byd, er enghraifft Occupy London. Yng Nghymru cafwyd gwersyllfannau yng Nghaerdydd[3] ac Abertawe.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Adbusters, Who will Occupy Wall Street on September 17?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-21. Cyrchwyd 2012-05-16.
- ↑ Lessons From Spain: "Los Indignados," Occupy Wall Street, and the Failure of the Status Quo. The Huffington Post (10 Hydref 2011).
- ↑ Occupy Cardiff sets up new camp at Transport House. BBC (20 Tachwedd 2011).
- ↑ Occupy campaigners set up camp in Swansea's Castle Square. This is South Wales (1 Rhagfyr 2011).