Geiriadur odlau yw odliadur a ddefnyddir i gyfansoddi cerddi a chaneuon.

Un o'r odliaduron mwyaf diweddar yw Odliadur Roy Stephens (Gwasg Gomer, 1978). O fewn y broliant, canodd T. Llew Jones:

Odliadur di-ail ydyw
Mawr ei werth i'r Cymry yw.

Hwn oedd yr odliadur cyntaf ers Geiriadur y Bardd gan Cynddelw ym 1874 - yr odliadur Cymraeg cyntaf.[1] Yn 2008, cyhoeddwyd diweddariad, Yr Odliadur Newydd gan Roy Stephens ac Alan Llwyd, sy'n cynnwys 5,000 yn fwy o eiriau na'r gyfrol gyntaf.

Odliaduron ar y We golygu

Yn Awst 2013 lansiodd y bardd Les Barker odliadur Cymraeg digidol a sgwennodd ar y cyd â Malcolm Weindling. Yn ogystal â darparu geiriau sy'n odli, mae hefyd yn darparu cyfieithiad o'r gair i'r Saesneg ac odlau Gwyddelig.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

Chwiliwch am Odliadur
yn Wiciadur.