Les Barker
Bardd Saesneg-Cymraeg a chyfansoddwr caneuon oedd Les Barker (30 Ionawr 1947 – 15 Ionawr 2023).[1] Roedd yn adnabyddus am ei farddoniaeth ddigri a'i barodïau o ganeuon poblogaidd, er ei fod hefyd wedi cynhyrchu llawer o waith dwys a difrifol.[2]
Les Barker | |
---|---|
Les Barker yng Ngŵyl Ely 2010. | |
Ganwyd | 30 Ionawr 1947 Manceinion |
Bu farw | 14 Ionawr 2023 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | bardd |
Yn wreiddiol o Fanceinion fe astudiodd i fod yn gyfrifydd cyn darganfod ei ddawn lenyddol. I ddechrau roedd yn mynd o gwmpas lleoliadau cerddoriaeth werin ac yn perfformio ar ei ben ei hun, ac yna ffurfiodd The Mrs Ackroyd Band (a enwyd ar ôl ei frithgi, Mrs Ackroyd).
Yn ogystal a pherfformio yng ngwledydd Prydain, teithiodd i berfformio yn Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau America a Chanada.
Cyhoeddodd 78 cyfrol o farddoniaeth Saesneg a 24 o albymau (un ai fel perfformiwr unigol neu gyda'i fand).
Y Gymraeg
golyguYn y 2000au symudodd i fyw i Wrecsam, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg. Aeth ymlaen i farddoni'n Gymraeg, yn cystadlu mewn eisteddfodau a chyhoeddi cyfieithiad Saesneg o waith Daniel Owen.[3][4] Daeth yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tegeingl.
Ers 2012 bu'n gyfrannwr cyson ar y Wicipedia Cymraeg gan greu dros 2,200 o erthyglau newydd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Les Barker: “Un o drysorau ein cenedl – ar fenthyg” , Golwg360, 16 Ionawr 2023.
- ↑ Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2013-03-04 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 05/12/2012
- ↑ LES BARKER WINS WELSH AWARD Gwefan BBC Radio 2 (21/05/08) (Saesneg)
- ↑ Fireside Tales:Datganiad i’r wasg Archifwyd 2016-07-30 yn y Peiriant Wayback Brown Cow Publishing (10.5.2011)
- ↑ Ystadegau Lesbardd. wmflabs. Adalwyd ar 16 Ionawr 2023.