Of Arthour and of Merlin
Cerdd Saesneg Canol yw Of Arthour and of Merlin sy'n dyddio o gyfnod diweddar y 13g. Rhamant yng Nghylch Arthur ydyw a chanddi 9,938 o linellau ar ffurf cwpledi byrion sy'n odli. Mae'r gerdd gyfan i'w chanfod yn llawysgrif Auchinleck. Fe'i cyfansoddwyd o bosib gan yr un awdur â King Alisaunder a Richard Coeur de Lyon. Daw o Gaint, mae'n debyg, ac yn seiliedig ar ffynhonnell Ffrengig sy'n gysylltiedig â chylch Myrddin y Fwlgat. Hanesion ailadroddus o ymrysonau a mân-frwydrau ydy ⅔ olaf y gerdd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 45.