Ofis ar Brezhoneg
Sefydliad i hybu'r iaith Lydaweg yw Ofis ar Brezhoneg (Ffrangeg: Office de la langue bretonne. Fe'i sefydlwyd ar 1 Mai 1999; mae'n cyfateb yn fras i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Enghraifft o: | rheoleiddiwr iaith ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 17 Medi 2010 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1999 ![]() |
![]() | |
Olynydd | Ofis publik ar brezhoneg ![]() |
Ffurf gyfreithiol | association under the French law of 1901 ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Rhanbarth | Karaez-Plougêr ![]() |

Ymhlith ei dyletswyddau, mae casglu gwybodaeth am sefyllfa'r iaith Lydaweg, cynghori cymunedau ar arwyddion dwyieithog ac enwau lleoedd a chynorthwyo cwmniau ac eraill sy'n dymuno defnyddio'r iaith. Mae hefyd yn hybu cyrsiau dysgu Llydaweg i oedolion. Mae wedi datblygu'r cynllun Ya d'ar brezhoneg i hyrwyddo'r iaith o fewn busnesi a chymdeithasau, a hefyd o fewn cynghorau lleol.
Mae'n sefydliad annibynnol sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan y région Bretagne, ac sydd a'i bencadlys yn Carhaix.