Ogwyn Davies
Arlunydd o Gymru oedd Ogwyn Davies (1925 – 26 Rhagfyr 2015)[1].
Ogwyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1925 Trebannws |
Bu farw | 26 Rhagfyr 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Plant | Nia Caron |
Fe'i ganwyd yn Nhrebannws yng Nghwm Tawe.[2] Fe astudiodd yng Ngholeg Celf Abertawe cyn byw a gweithio yn Nhregaron, Ceredigion. Dysgodd gelf yn Ysgol Uwchradd Tregaron am flynyddoedd, wrth ddatblygu ei yrfa annibynnol fel artist. Cafodd ei ethol i'r Academi Frenhinol Gymreig yn 1994.[3]
Mae rhai o'i ddarluniau nodweddiadol yn cynnwys Castell Dolbadarn a Soar Y Mynydd
Bywyd personol
golyguPriododd Beryl Bell ac roedd ganddynt ddau o blant, Huw a Nia. Bu farw ei wraig ar 27 Gorffennaf 2017.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr artist Ogwyn Davies wedi marw; BBC Cymru Fyw; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ Byd o Liw at S4C
- ↑ List of members Archifwyd 2011-05-23 yn y Peiriant Wayback at Royal Cambrian Academy
- ↑ DAVIES BERYL : Obituary. Western Mail (4 Awst 2017). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2018.