Old Romney
pentref a phlwyf sifil yng Nghaint
Pentref a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Old Romney.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Folkestone a Hythe.
Eglwys Sant Clement, Old Romney | |
Math | plwyf sifil, pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Folkestone a Hythe |
Poblogaeth | 227 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.99°N 0.895°E |
Cod SYG | E04005029 |
Cod OS | TR031251 |
Cod post | TN29 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 215.[2]
Yn yr hen amser roedd yn borthladd i Gors Romney. Yn oes y Rhufeiniaid fe'i gelwid yn Vetus Rumellenum. Bryd hynny roedd yn sefyll ar ynys yn hen aber Afon Rother. Fodd bynnag, llanwodd yr afon â llaid, ac erbyn Llyfr Dydd y Farn (1086), roedd New Romney wedi'i sefydlu fel porthladd newydd ar yr arfordir tua 3 km (2 filltir) i ffwrdd.[3] Ar ôl storm fawr ym 1287 newidiodd yr afon ei chwrs yn llwyr, i ymuno â'r môr yn Rye 12 km (7.5 milltir) i'r gorllewin, gan adael y pentref ar dir sych.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys Sant Clement – Adeilad rhestredig Gradd I
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Mai 2020
- ↑ City Population; adalwyd 9 Mai 2020
- ↑ Romney yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)