Ardal Folkestone a Hythe

ardal an-fetropolitan yng Nghaint

Ardal an-fetropolitan yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Ardal Folkestone a Hythe (Saesneg: Folkestone and Hythe District; Ardal Shepway gynt).

Ardal Folkestone a Hythe
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCaint
PrifddinasFolkestone Edit this on Wikidata
Poblogaeth110,237 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd356.7648 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.0789°N 1.1746°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000112 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Folkestone and Hythe District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 357 km², gyda 112,578 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Ashford i'r gorllewin, Dinas Caergaint ac Ardal Dover i'r gogledd, y Môr Udd i'r dwyrain, a Dwyrain Sussex i'r de.

Ardal Folkestone a Hythe yng Nghaint

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, o dan yr enw "Ardal Shepway". Fe'i hailenwyd yn "Folkestone a Hythe" ym mis Ebrill 2018.

Rhennir yr ardal yn 30 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Folkestone. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Hythe, Hawkinge, Lydd a New Romney.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 29 Ebrill 2020