Olive Wheeler

Athro addysg

Roedd y Fonesig Olive Annie Wheeler (4 Mai 188626 Medi 1963) yn addysgwr, yn seicolegydd, yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn wleidydd Llafur Cymreig[1][2]

Olive Wheeler
Ganwyd4 Mai 1886 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1963 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethseicolegydd Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Wheeler yn Aberhonddu yn ferch i Henry Burford Wheeler, argraffydd, ac Annie (née Poole) ei wraig. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Sir y Merched, Aberhonddu cyn mynd ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd gyda BSc ym 1907 ac MSc ym 1911. Roedd Wheeler yn enghraifft gynnar o'r myfyriwr Cymreig protestgar; wrth wasanaethu fel llywydd Undeb y Myfyrwyr cadwynodd ei hun i ffens y Prom tu allan i'r Alexandra Hall (neuadd y merched) i brotestio yn erbyn ei bwyd gwael a rheolau bychanus y coleg.

Enillodd DSc o Goleg Bedford, Llundain ym 1916, cyn mynd ymlaen i astudio am gyfnod ym Mhrifysgol Paris.

Gyrfa golygu

O Baris symudodd Wheeler i Ysgol Uwchradd Chesterfield i gychwyn ei gyrfa fel addysgwr. Ar ôl cyfnod byr yn Chesterfield fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Ysgol Hyfforddi Athrawon Sant George, Caeredin gan gychwyn ar yrfa hir o hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion uwchradd. Bu Wheeler am gyfnod yn ddarlithydd Gwyddorau Meddyliol a Moesol yn y Cheltenham Ladies' College cyn cael ei phenodi yn ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Manceinion ym 1918, ym 1923 cafodd ei phenodi yn Ddeon Cyfadran Addysg y Brifysgol.

Ym 1925 dychwelodd i Gymru i fod yn Athro Addysg Coleg Prifysgol Deheudir Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd, bellach) gan barhau yn y coleg hyd ei ymddeoliad ym 1951. Gwasanaethodd fel Deon y Gyfadran Addysg yng Nghaerdydd o 1948 hyd ei ymddeoliad ac yn Athro Emeritws Prifysgol Cymru o'i ymddeoliad hyd ei marwolaeth.[3]

Gweledigaeth golygu

Roedd Wheeler yn gredwr cryf yn y cysyniad o ddefnyddio gwyddorau seicoleg i wella addysg, mae'r cysyniad yn amlwg yn y rhan fwyaf o'i llyfrau

  • Youth: the psychology of adolescence and its bearing on the reorganisation of adolescent education (1929, 2il argraffiad 1933)
  • The Adventure of Youth (1937, ailargraffiadau 1945 a 1950)
  • The Psychological Basis of Adult Education (1938)
  • Nursery School Education (1939)
  • Mental Health and Education (1961)

Bu ei agweddau blaengar am addysg yn sail i ddatblygu gwaith tuag at Addysg Gyfun, cysylltiadau rhwng ysgolion a diwydiant a datblygiad Colegau Technegol er mwyn cynnig addysg bellach galwedigaethol. Roedd Wheeler hefyd yn lladmerydd cryf dros addysg gydol oes, gan wasanaethu fel cadeirydd Mudiad Addysg y Gweithwyr yn ne Cymru. Roedd hi'n gweld yr angen am gwnsela mewn ysgolion, gan gynnwys ymgynghorwyr gyrfa ac ymgynghorwyr iechyd meddwl.

Nid oedd ei syniadau blaengar yn ymestyn at addysg ddwyieithog, roedd hi'n credu bod dwyieithrwydd yn andwyol i seicoleg plant.[4]

Cyfeiriadau golygu