Oliver Thomas
clerigwr Piwritanaidd ac awdur
Clerigwr ac awdur Cymreig oedd Oliver Thomas (tua 1598 - 1652). Roedd yn Biwritan cynnar a gyhoeddodd bedwar llyfr crefyddol yn y Gymraeg, yn cynnwys Car-wr y Cymru (sef "Carwr y Cymry").[1]
Oliver Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1598 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | c. 1653 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | clerig, llenor |
Bywgraffiad
golyguGaned Thomas yn Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) tua'r flwyddyn 1598. Ar ôl cyfnod ger Croesoswallt yn Swydd Amwythig, cafodd ei benodi'n Brofwr dan y ddeddfwriaeth Biwritanaidd Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru a rhoddwyd iddo fywoliaeth plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych. Bu farw yn 1652.[1]
Gwaith llenyddol
golyguCyfieithodd neu addasodd bedwar llyfr Saesneg i'r Gymraeg er mwyn hyrwyddo Anghydffurfiaeth a Phiwritaniaeth yng Nghymru. Ystyrir un o'r llyfrau hyn, sef Car-wr y Cymru, yn un o glasuron rhyddiaith llenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Car-wr y Cymru (1630)
- Car-wr y Cymru (1631)
- Adargraffwyd y ddau lyfr uchod, wedi'u golygu gan John Ballinger, yn y gyfrol Car-wr y Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
- Sail Crefydd Ghristnogol (c. 1640). Ysgrifennwyd ar y cyd ag Evan Roberts o Lanbadarn.
- Drych i Dri Math o Bobl (c. 1647)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).