The Night Manager
Mae The Night Manager yn gyfres deledu Brydeinig-Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Susanne Bier ac sy'n serennu Tom Hiddleston, Hugh Laurie, Olivia Colman, David Harewood, Tom Hollander ac Elizabeth Debicki. Fe'i seiliwyd ar y nofel 1993 o'r un enw gan John le Carré ac fe'i diweddarwyd ar gyfer y cyfnod cyfoes.[1][2][3] Dechreuwyd y gyfres chwe-ran ddarlledu ar BBC One ar 21 Chwefror, 2016. Dechreua ddarlledu yng Nghanada a'r Unol Daleithiau ar 19 Ebrill, 2016 ar AMC.
The Night Manager | |
---|---|
Genre | Drama Ysbïwriaeth |
Serennu | Tom Hiddleston Hugh Laurie Olivia Colman Tom Hollander Tobias Menzies Elizabeth Debicki Douglas Hodge Antonio de la Torre |
Cyfansoddwr y thema | Victor Reyes |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer penodau | 6 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 58 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC (Y Deyrnas Unedig) AMC (Yr Unol Daleithiau) |
Rhediad cyntaf yn | 21 Chwefror, 2016 - 27 Mawrth, 2016 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Plot
golyguMae'r cyn-filwr Prydeinig Jonathan Pine (Tom Hiddleston) yn cael ei recriwtio gan Angela Burr (Olivia Colman), gweithredydd gwybodaeth. Gofynnir iddo ymchwilio yn Whitehall a Washington, D.C. lle y mae cynghrair rhwng y gymuned wybodaeth a'r fasnach arfau gyfrinachol. Mae'n rhaid iddo ymdreiddio cylch mewnol y deliwr arfau Richard Onslow Roper (Hugh Laurie), cariad Roper, Jed (Elizabeth Debicki), a'i gydymaith Corkoran (Tom Hollander).
Cast
golyguCynhwyswyd cast y gyfres:[4]
- Tom Hiddleston fel Jonathan Pine/Andrew Birch
- Hugh Laurie fel Richard Onslow Roper
- Olivia Colman fel Angela Burr
- Tom Hollander fel Major Lance Corkoran
- Elizabeth Debicki fel Jed Marshall
- Alistair Petrie fel Yr Arglwydd Sandy Langbourne
- Douglas Hodge fel Rex Mayhew
- David Harewood fel Joel Steadman
- Tobias Menzies fel Geoffrey Dromgoole
- Antonio de la Torre fel Juan Apostol
- Adeel Akhtar fel Rob Singhal
- Michael Nardone fel Frisky
- David Avery fel Freddie Hamid
- Amir El-Masry fel Youssuf
- Aure Atika fel Sophie Alekan
- Nasser Memarzia fel Omar Barghati
- Russell Tovey fel Simon Ogilvey
- Natasha Little fel Lady Caroline Langbourne
- Neil Morrissey fel Harry Palfrey
- Katherine Kelly fel Pamela, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Hannah Steele fel Marilyn
Cynhyrchiad
golyguCyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015 y byddai'r gyfres yn cael ei chyd-gynhyrchu gan y BBC, AMC a The Ink Factory.[1] Dechreuodd ffilmio yn y gwanwyn 2015 yn Llundain.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Merrill Barr (January 2015). "AMC Will Air 'The Night Manager' Starring Hugh Laurie & Tom Hiddleston". Screen Rant. Cyrchwyd 31 March 2015.
- ↑ Cynthia Littleton (30 October 2014). "AMC Nabs Hugh Laurie, Tom Hiddleston 'The Night Manager'". Variety. Cyrchwyd 31 March 2015.
- ↑ Denise Petski (5 March 2015). "Olivia Colman, Tom Hollander, Elizabeth Debicki Join AMC's 'The Night Manager'". Deadline.com. Cyrchwyd 31 March 2015.
- ↑ "BBC One: The Night Manager". BBC Online. Cyrchwyd 21 February 2015.
- ↑ Arvin Donguines (14 January 2015). "'The Night Manager' Release Date, Latest News: BBC, The Ink Factory and AMC Announce Mini-Series". Christian Post. Cyrchwyd 31 March 2015.