On Liberty
Traethawd athronyddol gan John Stuart Mill yw On Liberty a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1859.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | John Stuart Mill |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1859 |
Genre | ffeithiol |
Prif bwnc | rhyddid, Marcus Aurelius |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynnwys
golyguRhagarweiniad
golyguNid Rhyddid yr Ewyllys, fel ei elwir, yw pwnc y Traethawd hwn [...]; ond Rhyddid Sifil, neu Gymdeithasol: natur a chyfyngiadau'r grym a ellir gael ei ymarfer yn gyfreithlon gan gymdeithas dros yr unigolyn.
Yn y rhagarweiniad i On Liberty amlinella Mill ei ddehongliad o newidiadau mewn swyddogaeth rhyddid fel delfryd wleidyddol[2] a'i ofnau y gall twf democratiaeth arwain at ormes dan y mwyafrif.[nodyn 1]
Rhyddid meddwl a thrafod
golyguYn ail ran ei draethawd, mae Mill yn rhoi dadl iwtilitaraidd, neu o leiaf canlyniadol,[3] dros ryddid meddwl a thrafod. Yn ôl Mill os yw llywodraeth neu rym cyhoeddus arall yn gwahardd neu dawelu barn neu safbwynt yna maent yn amddifadu cymdeithas, beth bynnag yw natur y farn. Os yw'r farn a fynegir yn gywir, yna nid yw bodau dynol yn elwa o'i gwir neu ei budd; os yw barn a fynegir yn anghywir, yna nid oes gan gymdeithas y cyfle i atgyfnerthu ei dealltwriaeth o beth sy'n gywir.
Unigolrwydd fel un o elfennau lles
golyguCyfyngiadau i awdurdod cymdeithas dros yr unigolyn
golyguCymwysiadau
golyguNodiadau
golygu- ↑ Deillia'r term "gormes dan y mwyafrif" (Saesneg: tyranny of the majority) o De la démocratie en Amérique gan Alexis de Tocqueville. Ysgrifennodd Mill adolygiadau o ddwy gyfrol y gwaith hwn ar gyfer y London Review ym 1836 a'r Edinburgh Review ym 1840. (Gweler nodiadau esboniadol Gray (rhif 8) ar gyfer Mill, t. 583.)
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golyguHampsher-Monk, Iain (1992). A History of Modern Political Thought. Blackwell
Mill, John Stuart (1859/1991). "On Liberty", gol. Gray, John: On Liberty and Other Essays, Oxford World's Classics. Gwasg Prifysgol Rhydychen
Rawls, John (2007). gol. Freeman, Samuel: Lectures on the History of Political Philosophy. Gwasg Prifysgol Harvard