On the Origin of Species
Cyhoeddwyd On the Origin of Species (dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 1859); awdur: Charles Darwin gyda'r teitl llawn: On the Origin of Species by Means of Natural Selection, or the Preservation of Favoured Races in the Struggle for Life. Roedd y llyfr gwyddonol hwn o bwys mawr ac yn garreg filltir mewn llenyddiaeth wyddonol. Pan gyhoeddwyd y 6ed rhifyn newidiwyd y teitl i: The Origin of Species. Mae copi o'r clawr hwn i'w weld ar y dde.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith academaidd |
---|---|
Awdur | Charles Darwin |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Tachwedd 1859 |
Genre | llenyddiaeth am wyddoniaeth, traethawd |
Rhagflaenwyd gan | On the Tendency of Species to form Varieties; and on the Perpetuation of Varieties and Species by Natural Means of Selection |
Prif bwnc | detholiad naturiol |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Ynysoedd y Galapagos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y llyfr yn cyflwyno'r syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol mewn bioleg. Profodd fod organebau byw wedi esblygu dros amser drwy broses a alwodd yn ddetholiad naturiol. Roedd hyn yn creu'r syniad o 'goeden' gyda'r canghennau'n esblygu yn wahanol greaduriaid. i droi'r syniad hwn ar ei ben i lawr, fe welwn fod pob creadur yn tarddu o'r un boncyff. Pan gyhoeddwyd y llyfr, roedd llawer iawn o Gristnogion yn ymateb yn ffyrnig iawn gan fod y syniadau hyn yn groes i syniadau'r Beibl fod Duw wedi creu organebau byw ('anifeiliaid y maes a physgod y môr') i gyd ar yr un pryd. Roedd hi'n anodd iawn i lawer o'r rhain dderbyn mai o fwnci (ac anifeiliaid eraill cyn hynny) y daeth dyn.
Roedd ei ymweliad â Chwm Idwal a'i daith mewn cwch o'r enw HMS Beagle yn 1830 wedi bod yn allweddol i hyn oll. Sgwennodd y llyfr ar gyfer y lleygwr a daeth yn llyfr tu hwnt o boblogaidd. Pymtheg swllt oedd ei bris a gwerthwyd pob un o'r 1,250 copi cyntaf ar unwaith. Cyhoeddwyd yr ail argraffiad ar 7 Ionawr 1860 a gwerthwyd 3,000 copi.[1]