Cwm Idwal
Cwm yn Eryri yw Cwm Idwal; mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd trwy'r cwm.
Math | peiran |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1137°N 4.0299°W |
Daearyddiaeth
golyguSaif y cwm ychydig i'r de-orllewin o Lyn Ogwen a phriffordd yr A5. Ynghanol y cwm mae Llyn Idwal, ac amgylchynir ef gan nifer o fynyddoedd, yn enwedig y Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.
Atyniadau
golyguMae Cwm Idwal yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, cerddwyr a dringwyr mynyddoedd, ac mae llwybr yn arwain o gwmpas y llyn.
Ym mhen draw y cwm mae clogwyni serth Clogwyn y Geifr, gyda'r hollt enwog a elwir y Twll Du. Nodweddir y cwm gan olion rhewlif o Oes yr Iâ, sy'n ei wneud o ddiddordeb daearegol mawr.
Ceir amrywiaeth o blanhigion Arctig-alpaidd ar y clogwyni o gwmpas Cwm Idwal, yn cynnwys Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).
Dolenni allanol
golyguLlwybr Cwm Idwal, o safle we Parc Cenedlaethol Eryri Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback