Operation Yewtree
Ymchwiliad yr heddlu i gamdriniaeth rhywiol honedig, yn benodol camdriniaeth rhywiol o blant, gan y seren deledu Seisnig Jimmy Savile (a fu farw yn 2011) ac eraill ydy Operation Yewtree. Dechreuodd yr ymchwiliad gan Heddlu Dinas Llundain ym mis Hydref 2012. Ar ôl cyfnod o asesu, dechreuwyd ar ymchwiliad troseddol llawn, yn cynnwys ymchiliadau i bobl sydd dal yn fyw, yn ogystal â Savile.
Ar 19 Hydref 2012, cyhoeddodd Heddlu Dinas Llundain fod dros 400 o linynnau ymchwilio gwahanol wedi'u hasesu a thros 200 o ddioddefwyr posib wedi'u hadnabod. Erbyn 19 Rhagfyr, roedd wyth o bobl wedi'u cwestiynu; cyfanswm y nifer y dioddefwyr honedig oedd 589, gyda 450 ohonynt yn honni iddynt gael eu camdrin gan Savile. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2013.
Cefndir
golyguDarlledwyd rhaglen ddogfen gan ITV1, Exposure: The Other Side of Jimmy Savile, ar 3 Hydref 2012. Roedd y rhaglen yn cynnwys sawl honiad wrth fenywod a ddywedodd iddynt gael eu camdrin yn rhywiol gan Savile pan oeddent yn arddegwyr. Dywedasant iddo gael mynediad iddynt trwy raglenni teledu a'i waith elusennol.[1] Ar ôl y darllediad, daeth nifer o bobl eraill i'r fei i wneud honiadau ynglŷn ag ymddygiad Savile tuag at bobl ifanc, gan gynnwys camdriniaeth rywiol a ddigwyddodd ar dir y BBC ac mewn ysbytai lle'r oedd gan Savile fynediad iddynt.[2]
Arestiadau
golyguArestiwyd y cyn-seren bop a'r troseddwr rhyw euogfarnedig Gary Glitter fel rhan o'r ymchwiliadau i mewn i fywyd Savile ar 8 Hydref 2012;[3][4][5] cafodd ei gwestiynu mewn gorsaf heddlu yn Llundain am dros naw awr cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Rhagfyr.[5] Arestiwyd y digrifwr Freddie Starr ar 1 Tachwedd ar amheuaeth o droseddau cysylltiedig a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth trannoeth.[6][7] Ar 11 Tachwedd, arestiwyd cyn-gynhyrchydd gyda'r BBC Wilfred De'ath, a gafodd ei gyfweld ar gyfer rhaglen ddogfen Exposure yng Nghaergrawnt ar amheuaeth o droseddau rhywiol cysylltiedig; cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn hwyrach,[8] gan wadu'r honiadau a wnaed yn ei erbyn.[9]
Arestiwyd pedwerydd dyn, y DJ Dave Lee Travis, yn Swydd Bedford ar 15 Tachwedd a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn hwyrach. Dywedodd yr heddlu nad oedd yr honiadau yn ei erbyn ef yn gysylltiedig â Savile, a dywedodd Travis y cafodd ei arestio am faterion nad oedd yn ymwneud â phlant.[10] Ar ddiwedd mis Tachwedd 2012 cwestiynwyd dyn anhysbys yn ei 80au gan Heddlu Dinas Llundain a chwiliwyd ei gartref yn Berkshire, ond ni chafodd ei arestio.[11] Ar 6 Rhagfyr, adroddodd y papurau newydd fod y swyddog cyhoeddusrwydd Max Clifford wedi cael ei arestio fel rhan o Operation Yewtree, ar amheuaeth o droseddau rhywiol;[12] pan gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, gwadodd yr hyn a ddisgrifioff fel yr "honiadau niweidiol a chwbl anwireddus".[13] Arestiwyd dyn anhysbys yn ei 60au yn Llundain ar 10 Rhagfyr,[14] ac wythfed dyn, cyn-gynhyrchydd radio gyda'r BBC, Ted Beston, ar 19 Rhagfyr.[15] Ar 2 Ionawr 2013, arestiwyd y digrifwr Jim Davidson, a dyn anhysbys arall yn ei 50au.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Midgley (4 Hydref 2012). Jimmy Savile: Exposure, ITV1, review. The Telegraph.
- ↑ Beckford (5 Hydref 2012). Met investigate Sir Jimmy Savile as dozens more abuse allegations are made.
- ↑ Jimmy Savile investigation: Gary Glitter arrested on 'sexual offences' (28 Hydref 2012).
- ↑ Jimmy Savile: Former pop star Gary Glitter arrested by police. BBC News.
- ↑ 5.0 5.1 Booth (28 Hydref 2012). Gary Glitter arrested by police on Jimmy Savile case.
- ↑ Freddie Starr arrested in Jimmy Savile abuse inquiry. BBC News (1 Tachwedd 2011).
- ↑ Freddie Starr bailed by Jimmy Savile investigation police. The Independent (2 Tachwedd 2011).
- ↑ Jimmy Savile: police arrest third man over historic sex abuse allegations. Telegraph.
- ↑ I know how Lord McAlpine feels.
- ↑ DJ Dave Lee Travis says arrest not linked to children. BBC News (16 Tachwedd 2012).
- ↑ Jimmy Savile investigation: Man in his 80s questioned. BBC News (29 Tachwedd 2012).
- ↑ Max Clifford arrested in sex offences investigation. BBC News (6 Rhagyfr 2012).
- ↑ Max Clifford denies 'damaging' sex offence allegations. BBC News (6 Rhagfyr 2012).
- ↑ Yewtree police arrest man in 60s. BBC News (10 Rhagfyr 2012).
- ↑ Jimmy Savile abuse: Ex-radio producer Ted Beston arrested. BBC News (19 Rhagfyr 2012).
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. BBC News (2 Ionawr2013).