Oratori Birmingham

Cymuned grefyddol Gatholig wedi'i lleoli yn ardal Edgbaston yn Birmingham, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Oratori Birmingham. Sefydlwyd y gymuned yn 1849 gan John Henry Newman fel tŷ Cynulleidfa Oratorïau Sant Philip Neri (Lladin: Confoederatio Oratorii Sancti Philippi Nerii), sy'n sefydliad y mae ei aelodau yn ymrwymo i gymuned grefyddol hunanlywodraethol heb wneud unrhyw addunedau.

Oratori Birmingham
Mathoratori, gysegrfa genedlaethol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Birmingham
Nawddsantyr Ymddŵyn Difrycheulyd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolThe Church of the Immaculate Conception (The Oratory), the Oratory Priests' House and the Former Oratory School Buildings Edit this on Wikidata
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.4722°N 1.9288°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP0492186058 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolQ56378393 Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Mae cyfadeilad yr Oratori yn cynnwys Eglwys yr Ymddŵyn Difrycheulyd, a elwir yn gyffredin fel "Eglwys yr Oratori", sy'n gysegrfa genedlaethol i Newman. Adeiladwyd yr eglwys rhwng 1907 a 1910 yn yr arddull Baróc i ddisodli'r strwythur gwreiddiol. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Edward Doran Webb.

Cromen yr eglwys

Dolenni allanol

golygu