Orhi
Mynydd 2,017 metr uwch lefel y môr yng Ngwlad y Basg yw Orhi[1] (neu Ohi phünta yn nhafodiaith Basgeg Zuberoa). Gan ddechrau o'r gorllewin, yn aml mae'n cael ei gyfri'n gopa cyntaf y Pyreneau gyda mwy na 2,000 metr o uchder. Fe'i lleolir ar y ffin rhwng Zuberoa a Nafarroa Garaia (ac felly ar y ffin rhwng gwladwriaethau Ffrainc a Sbaen) yn rhan ddwyreiniol coedwig Irati (yr ail goedwig ffawydd fwyaf yn Ewrop ar ôl y Fforest Ddu).
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Zuberoa, Nafarroa Garaia |
Gwlad | Sbaen, Ffrainc |
Uwch y môr | 2,017 metr |
Cyfesurynnau | 42.9896°N 1.005°W |
Amlygrwydd | 603 metr |
Cadwyn fynydd | Orhi a'i griw |
Mannau cychwyn
golyguMae'r llwybr hawsaf a mwyaf poblogaidd i'r copa yn cychwyn o faes parcio bwlch Larraine (uchder 1537m).
"Aderyn Orhi"
golyguDisgrifir mynydd Orhi mewn sawl hen ddywediad Basgeg. Mae'r rhain yn cyfeirio at gysylltiad rhywun â tharddiad rhywun.
- Orhiko xoria, Orhira tira (Bydd aderyn Orhi yn hedfan i Orhi) yn nhafodiaith Nafarroa
- Orhiko xoria, Orhin laket (Mae aderyn Orhi wrth ei fodd yn Orhi) yn nhafodiaith Zuberoa
Ysgrifenodd Jean Gorostarsu Haroztegi am aderyn Orhi yn y gerdd Etxeca xokoa (llecyn cartref) yn y 19g.
Mytholeg
golyguMynydd Orhi yw un o breswylfeydd Mari, un o hen dduwiau'r Basgiaid. Cysylltir Orhi a choedwig Irati hefyd efo Basajaun (sef "Arglwydd y Goedwig", math o gawr doeth).
Llwybr y GR 11
golyguMae llwybr GR 11, sy'n croesi llethrau deheuol y Pyreneau, yn mynd trwy fwlch Orhi, nepell o'r copa.