Orley Farm

llyfr gan Anthony Trollope

Mae Orley Farm yn nofel a ysgrifennwyd gan Anthony Trollope (1815-82), ac a ddarluniwyd gan yr arlunydd Cyn-Raffaëlaidd John Everett Millais (1829-96).

Orley Farm
Orley Farm gan John Everett Millais o agraffiad cyntaf y llyfr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Trollope
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
GenreFfuglen, Nofel
Rhagflaenwyd ganCastle Richmond Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLloegr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cyhoeddwyd Orley Farm gyntaf mewn rhannau am bris o swllt y mis gan y cyhoeddwr o Lundain Chapman and Hall rhwng Mawrth 1861 a Hydref 1862. Er ei bod yn ymddangos bod y nofel hon wedi tan werthu (o bosib oherwydd bod y rhan am swllt yn cael ei chysgodi gan gylchgronau, fel The Cornhill, a oedd yn cynnig amrywiaeth o straeon a cherddi ym mhob rhifyn), daeth Orley Farm yn ffefryn personol Trollope.[1] Dywedodd George Orwell fod y llyfr yn cynnwys "un o'r disgrifiadau mwyaf disglair o achos cyfreithiol mewn ffuglen Saesneg." [2]

Roedd y tŷ yn y llyfr yn seiliedig ar fferm yn Harrow a oedd unwaith yn eiddo i deulu Trollope. Daeth y fferm go iawn yn ysgol, a oedd i fod yn ysgol fwydo i Ysgol Harrow yn wreiddiol. Cafodd ei ailenwi’n Orley Farm School ar ôl y nofel, gyda chaniatâd Trollope.[3]

Plot golygu

Roedd Syr Joseph Mason yn hen ddyn pan anwyd Lucius, mab ei ail wraig. Roedd wedi byw am rai blynyddoedd yn Orley Farm, ystâd fach ger Llundain, a adawyd gan godisil i'w ewyllys i'r plentyn hwn. Doedd y mab hynaf ddim yn fodlon efo dim ond yr ystâd llawer mwy a chafodd yn ewyllys ei dad, roedd o eisiau'r ystâd fach arall hefyd. Mae'n mynd i lys barn i herio'r ewyllys ond yn colli'r achos.[4]

Bu'r Ledi Mason yn byw ar y fferm gan fagu ei mab. Mae Lucius yn mynd i'r Almaen i astudio'r dulliau amaethyddol gwyddonol newydd yn y gobaith o wneud llwyddiant ariannol o'r eiddo. Wedi dychwelyd o'i astudiaethau mae'n dychwelyd i redeg y fferm. Mae'n canslo prydlesi rhai o denantiaid yr ystâd er mwyn ei redeg fel un uned fwy effeithiol. Roedd un o'r prydlesi yn cael ei ddal gan dwrnai dan din o'r enw Samuel Dockwrath. Mae Dockwrath yn fab yng nghyfraith i'r cyfreithiwr a baratôdd yr ewyllys yn wreiddiol. Wedi pechu bod o wedi colli ei brydles a gan gofio'r ymryson llys am ddilysrwydd yr ewyllys mae'n ail ymchwilio i'r achos. Mae'n dod o hyd i ail weithred wedi'i llofnodi gan yr un tystion ar yr un dyddiad, er bod y tystion yn gallu cofio llofnodi un ddogfen yn unig. Mae'n teithio i Barc Groby yn Swydd Efrog, lle mae Joseph Mason yr ieuengaf yn byw gyda'i wraig gybyddlyd, ac yn perswadio Mason i erlyn y Ledi Mason am dwyll.

Mae'r Ledi Mason wedi bod mewn perthynas cariadus gyda'i chymydog Syr Peregrine Orme. Pan ail agorwyd yr achos rhoddodd Syr Peregrine ei gefnogaeth lawn i'r Ledi Mason ac, er mwyn iddo ei hamddiffyn, gofynnodd iddi ei phriodi. Mae hi'n cael ei Cyffyrddwyd yn ddwfn gan ei gynnig. Ond oherwydd ei theimladau o euogrwydd mae'n methu derbyn ei gynnig. Mae hi'n cyfaddef iddi gyflawni'r ffugiad. Pan ddaeth yr achos i lys fe'i cafwyd Ledi Mason yn ddieuog, ond o wybod bod o wedi derbyn yr eiddo trwy dwyll ei fam dychwelodd Lucius Orley Farm i'w hanner frawd.[5]

Cymeriadau golygu

  • Lucius Mason
  • Y Ledi Mary Mason
  • Samuel Dockwrath
  • Thomas Furnival
  • Felix Graham
  • Syr Peregrine Orme,
  • Madeline Staveley
  • Mr Chaffanbrass
  • Mrs. Kitty Furnival
  • Sophia Furnival
  • Mr Moulder
  • Mrs. Edith Orme
  • Augustus Staveley
  • Y Ledi Isabella Staveley
  • Yr Arglwydd Alston
  • Solomon Aram
  • Mrs. Isabella Arbthnot
  • Marion Arbuthnot
  • Martha Biggs,
  • Arglwydd Boanerges
  • Mrs Bridget Bolster
  • Mr Crabwitz
  • Mr Crump
  • Mrs Miriam Dockwrath
  • Albert Fitzallen
  • Mrs. Adolphus Green
  • Y Parch. Adolphus Green
  • Mr Greenwood
  • Mr Kantwise
  • John Kenneby
  • Syr Richard Leatherham
  • Barwn Maltby
  • Mr Martock
  • Y Ledi Diana Mason
  • Syr Joseph Mason
  • Mrs Mary Anne Moulder
  • Peregrine Orme
  • Mrs Maria Smiley
  • Mary Snow,
  • Y Barnwr Staveley
  • Mr Steelyard
  • Mrs Thomas
  • Mr Torrington
  • Miss Harriet Tristram, Misses And
  • Miss Julia tristram
  • Jonathan Usbeck

Cyfeiriadau golygu