Ysgol Harrow
Yysgol breswyl annibynnol ar gyfer bechgyn yn Harrow, Llundain, Lloegr, yw Ysgol Harrow. Sefydlwyd yr ysgol ym 1572 gan John Lyon o dan Siarter Frenhinol gan Elizabeth I[1], ac mae'n un o'r naw ysgol gyhoeddus a gafodd eu rheoleiddio gan Ddeddf Ysgolion Cyhoeddus 1868. Mae Harrow yn codi hyd at £12,850 (2017/18)[2] y tymor, gyda thri thymor fesul blwyddyn academaidd. Harrow yw'r bedwaredd ysgol breswyl ddrutaf yng Nghynhadledd y Prifathrawesau a Phrifathrawon.
Math | ysgol fonedd, ysgol breswyl, ysgol annibynnol, ysgol i fechgyn |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Harrow |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Harrow on the Hill |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5725°N 0.335°W |
Cod post | HA1 3HP |
Sefydlwydwyd gan | John Lyon |
Crefydd/Enwad | Eglwys Loegr |
Mae gan yr ysgol gofrestriad o 821 o fechgyn mewn deuddeg o dai preswyl, pob un ohonynt yn lletya llawn amser.
Mae gwisg Harrow yn cynnwys hetiau gwellt, siwtiau bore, a hetiau top.
Mae Sefydliad Harrow hefyd yn cynnal ysgol ramadeg annibynnol yn Harrow, o'r enw Ysgol John Lyon, a nifer o ysgolion tramor. Mae Ysgol John Lyon hefyd yn talu ffioedd ac yn ddethol yn academaidd. Mae'r arweinydd cerddorfa Cymreig Owain Arwel Hughes wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol John Lyon.
Ymysg ei gyn-fyfyrwyr bu wyth o Brif Weinidogion Prydeinig neu Indiaid (gan gynnwys Peel, Palmerston, Baldwin, Churchill a Nehru), gwladweinwyr tramor, cyn-aelodau ac aelodau cyfredol o ddau dŷ Senedd y DU, pum brenin a nifer o aelodau eraill o deuluoedd brenhinol amrywiol, tri enillydd Gwobr Nobel, ugain Croes Fictoria ac un o ddeiliaid y George Cross, a nifer o ffigurau yn y celfyddydau a'r gwyddorau.
Pobl Harrow â chysylltiadau Cymreig
golygu- Arglwydd Ninian Crichton-Stuart
- John Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute
- David Arthur Saunders Davies
- Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth
- Arthur Evans
- Cyril Flower
- William Fuller-Maitland
- Raymond Garlick
- Edmund Hyde Hall
- Owain Arwel Hughes
- William Bulkeley Hughes
- Edward Wingfield Humphreys
- Arthur Humphreys-Owen
- William Jones (ieithegwr)
- George Thomas Kenyon
- John Wimburn Laurie
- Thomas Davies Lloyd
- John Edward Madocks
- Charles Morgan Robinson Morgan
- George Lort Phillips
- Wyn Roberts
- John Henry Scourfield
- George Percival Spooner
- Christopher Rice Mansel Talbot
- David Vaughan Thomas
- John Lloyd Vaughan Watkins
- Henry Watkins Williams-Wynn
- Thomas Wood
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British History Online Schools – Harrow School adalwyd 1 Rhagfyr 2017
- ↑ Gwefan Ysgol Harrow Fees and Deposits Archifwyd 2017-11-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Rhagfyr 2017